Dim arian ar 么l i orffen y gwaith o adfer Pier Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun atgyweirio Pier Bangor wedi dod i ben heb gwblhau'r holl waith adfer angenrheidiol am fod yr arian ar gyfer y prosiect eisoes wedi ei wario.
Roedd gan berchnogion y pier - Cyngor Dinas Bangor - 拢1.3m wrth gefn ar gyfer gwaith cynnal a chadw, ond nawr mae angen 拢600,000 ychwanegol yn sgil problemau newydd a ddaeth i'r amlwg gyda phen pellaf y strwythur.
Bu'n rhaid cau'r rhan honno o'r pier rhestredig Gradd II ar fyr rybudd ar 么l i beirianwyr godi pryderon diogelwch am ei gyflwr mewn adroddiad.
Yn 么l maer y ddinas, y Cynghorydd John Wynn Jones, mae'r cyngor yn "fodlon derbyn arian gan unrhyw un" i orffen y gwaith, ac maen nhw wedi cysylltu 芒 nifer o gyrff cyhoeddus i weld a ydyn nhw mewn sefyllfa i gyfrannu.
Mae'r pier - yr ail hiraf yng Nghymru - yn rhan amlwg o dirlun arfordirol Bangor ers agor yn 1896, a chyngor y ddinas sy'n berchen arno ers y 1980au.
Fe ddechreuodd y gwaith atgyweirio ddwy flynedd yn 么l ond fe gafodd y cyngor wybod fis Mehefin y llynedd fod cyflwr y pen pellaf mor wael nes bod perygl iddo syrthio i'r Fenai.
Mae yna sgaffaldiau yno o hyd ac fe fyddai'n gostus i'w tynnu i lawr a'u hail-osod maes o law.
"'Dan ni wedi sicrhau'r pen draw rwan, a dwi'n meddwl bod 'na dair adran arall ar 么l isio'u g'neud," meddai Mr Jones.
Dywedodd bod y cyngor wedi cysylltu 芒 Llywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a'r corff cadwraethol CADW yn gofyn am gymorth.
Mae'n amau a fyddai'r cyhoedd yn fodlon cyfrannu at ymgyrch dorfol er mwyn cwblhau'r gwaith gan fod trethdalwyr eisoes wedi rhoi arian sylweddol at adfer y pier yn y gorffennol.
"'Dan ni wedi bod yn ddarbodus a 'di celcian yr 拢1.3m 'dan ni wedi'i wario yn barod o'r trethi, a ma' hynny dros gyfnod o flynyddoedd. Dwi'n teimlo rwan na ddylian ni roi y 拢600,000 ar y trethi.
"Toes na'm un syniad oddi ar y bwrdd a 'dan ni'n fodlon derbyn arian gan unrhyw un."
Yn 么l y cynghorydd sy'n cynrychioli ardal y pier ar gynghorau Bangor a Gwynedd, Huw Wyn Jones, mae angen gweithredu i warchod atyniad sy'n agos at galonnau trigolion, ymwelwyr a myfyrwyr prifysgol y ddinas.
"Mae o'n lle tu hwnt o brydferth," meddai.
"Dan ni 'di gweld be' sy'n digwydd yn Bae Colwyn lle os 'di rhywun ddim yn cynnal a chadw pier mae o'n mynd i ddisgyn i'r m么r.
"Mae'n bwysig iawn bod ni'n 'neud ein gora' i achub hwn - dyna 'di'n job ni fel cyngor i drio achub petha' sy'n bwysig i'r gymdeithas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018