Colli 104 o swyddi wrth gau ffatri REHAU yn Amlwch
- Cyhoeddwyd
Bydd 104 o swyddi yn cael eu colli wedi i Gr诺p REHAU gyhoeddi y byddan nhw'n cau eu ffatri yn Amlwch.
Yn 么l y cwmni, sy'n cynhyrchu nwyddau plastig, mae dirywiad wedi bod yn y farchnad.
Dywedodd REHAU eu bod wedi gwneud "ymdrechion sylweddol" i ddiogelu'r ffatri, ond nad oedd y rheiny'n llwyddiannus.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni mai eu bwriad yw cau'r ffatri cyn diwedd 2019.
Fe wnaeth y cwmni ddechrau cyfnod ymgynghorol 90 diwrnod ym mis Ionawr.
Dywedodd AS Ynys M么n, Albert Owen, ei fod yn siomedig fod y cwmni wedi penderfynu nad oedd y syniadau gafodd eu cynnig gan y gweithlu yn ddigon i achub y ffatri.
Ychwaengodd y byddai'n parhau i roi pwysau ar REHAU i newid eu meddwl.
Yn 么l REHAU roedd ystyriaeth gofalus wedi eu rhoi i gynigion y gweithwyr ond yn "anffodus byddai'r rhain ddim yn ddigonol i sicrhau dyfodol hir dymor y ffatri.
"Bydd ein sylw nawr ar gefnogi'r staff yn y cyfnod heriol hwn."
'Ergyd drom'
Mae'r newyddion yn ergyd arall i ogledd M么n yn dilyn penderfyniad cwmni Hitachi ddechrau'r flwyddyn i atal yr holl waith ar gynllun 拢12bn Wylfa Newydd.
Dywedodd Aled Morris Jones, un o gynghorwyr sir yr ardal, ar raglen y Post Cyntaf Radio Cymru fod y penderfyniad REHAU "yn ergyd drom ofnadwy yn enwedig o ran yr oedi gyda'r atomfa newydd."
"Rhaid i ni obeithio am y gorau, mae'n rhaid edrych i'r dyfodol - a allai'r safle gael ei ddefnyddio gan rywun arall.
"Mae yna weithlu yn fama, mae'n rhaid i ni droi pob carreg i weld a oes modd cael rhyw ddiwydiant yn 么l i Amlwch, mae yna weithlu brwdfrydig yma."
Dywedodd Ken Skates gweinidog yr economi: "Mae Llywodraeth Cymru ynghyd 芒'r awdurdod lleol a phartneriaid eraill wedi cydweithio'n agos wrth gefnogi'r cwmni er mwyn ceisio cael datrysiad positif yn ystod y cyfnod ymgynghorol - felly mae'r newyddion yma yn hynod siomedig.
Gostyngiad mewn galw
"Mae ein meddyliau gyda'r gweithwyr a'u teuluoedd a byddwn yn gwneud popeth posib i'w cefnogi," meddai.
"Fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo i'r ardal ac o ran buddsodi yn Sir F么n er mwyn cefnogi llewyrch economaidd yr ynys yn y dyfodol."
Daeth i'r amlwg ym mis Ionawr bod y cwmni yn ystyried cau'r safle, wrth iddyn nhw nodi bod gostyngiad o 70% wedi bod yn y galw am gynnyrch REHAU.
Ar y pryd dywedodd llefarydd nad oedd modd newid y ffatri yn Amlwch i gynhyrchu nwyddau gwahanol am fod prinder lle ar y safle.
Dyw'r penderfyniad i gau ddim yn effeithio ar y ffatri sydd gan REHAU ym Mlaenau Ffestiniog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019