Ateb y Galw: Yr actores Mari Beard
- Cyhoeddwyd
Yr actores a'r ysgrifenwraig Mari Beard sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Geraint Rhys Edwards yr wythnos diwethaf.
Yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi S4C a 大象传媒 - fel Tourist Trap - mae Mari yn ddiweddar wedi profi llwyddiant gyda'r gyfres S4C Merched Parchus a ysgrifennodd gyda Hanna Jarman.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio gweld eira am y tro cynta a troi at mam a dweud "mess" yn meddwl/gobeithio bod rhywun yn mynd i fod mewn lot o drwbwl am y llanast gwyn o'dd dros popeth.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Pan o'n i'n 15 o'dd gen i obsesiwn gyda Leonardo DiCaprio. O'dd gen i gymaint o bosters ohono fe o'n i methu gweld y paent ar y wal.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i'n eistedd tu allan i dafarn Nos Da yng Nghaerdydd gyda criw o fy ffrindiau. Ma' dau foi yn dod i eistedd ar ben y bwrdd, roedd rhai o fy ffrindiau yn 'nabod y ddau. Yn hwyrach dwi'n ffeindio fy hun yn eistedd wrth ymyl y ddau ddieithryn a ma' un yn troi ata i a gofyn os o'n i'n gyfarwydd 芒 band ('na i ddim dweud enw y band am resymau amlwg). Nes i ateb "Och, dwi'n cas谩u nhw," a bwrw 'mlaen i ddweud pam o'n i'n meddwl eu bod nhw yn middle of the road mewn manylder.
Ma'r bwrdd yn mynd yn dawel. Ma'r boi yn dweud "o, wel dyma'r gitarydd" wrth bwynto at ei ffrind. Ges i gymaint o sioc nes i jest eistedd yna - dim ymddiheuro - jyst eistedd yn ddistaw yn edrych yn flin. 'Nath y ddau adael reit handi. Dwi'n meddwl amdano fe bob nos.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Heddiw yn gwrando ar bodlediad Shreds gan y 大象传媒. Podlediad am y Cardiff 5 a gafodd eu cyhuddo o lofruddiaeth Lynette White. Ma' fe'n wych ac oedd y bennod olaf yn hynod o bwerus.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi wrth fy modd yn gwylio sothach ar y teledu, yn enwedig y cannoedd o gyfresi o Real Housewives. New York, New Jersey, Dallas, Beverly Hills... dwi wrth fy modd gyda nhw i gyd!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberystwyth gan mai y lle gorau yn y byd yw e.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi wedi cal lot o nosweithiau da yn fy amser ond mae noson yn Glastonbury gyda Hanna Jarman rhyw ddeng mlynedd yn 么l yn dod i fy meddwl. Y ddwy ohonom ni'n crwydro o gwmpas yr 诺yl tan yr oriau m芒n yn edrych ar yr adloniant hudolus, yr healing a green fields yn yfed seidr cynnes.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Drygionus, sinigaidd, diog.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
The Bees gan Laline Paull. Mae'r llyfr o safbwynt gwenynen a ma' fe'n hollol wahanol i unrhywbeth dwi erioed wedi darllen o'r blaen.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Mam. Dwi'n siarad gyda Mam bron bob dydd, hi yw fy mentor, therapydd a fy arwres - s'pose bod arna' i ddrinc iddi!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Ma' gen i grwban o'r enw Poirot.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ar 么l ca'l bath andros o hir (dwi'n treulio oriau yn y bath) gyda glasied mawr o Pinot Grigio, byswn i'n ca'l parti mawr gyda fy ffrindiau a fy nheulu gyda digonedd o rym a chicken wings.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Ma' hwn yn gwestiwn mor anodd. Ma' 'na gymaint o ganeuon dwi'n caru, ond os oes RHAID meddwl am g芒n... These Foolish Things wedi'i berfformio gan Ella Fitzgerald.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Korean bbq wings o Hangfire yn Y Barri, platiad mawr o fruit de mare, a brownie fy anti Si芒n.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Cardi B.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Catrin Beard