´óÏó´«Ã½

Ateb y Galw: Yr actor a chyfarwyddwr Hanna Jarman

  • Cyhoeddwyd
Hanna JarmanFfynhonnell y llun, Hanna Jarman

Yr actor a'r cyfawyddwr Hanna Jarman sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Mali Tudno Jones yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio bwyta pryfyn lludw pan o'n i tua dwy oed… dwi'n cofio Mam yn panicio'n lân hefyd.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Ringo Starr. Weird. O'dd gen i obsesiwn gyda'r ffilm Beatles Help! pan o'n i'n fach. Nes i hyd yn oed sgwennu llythyr garu ato fe yn defnyddio lyrics y Beatles. Sai'n siŵr beth o'dd Mr Williams, athro blwyddyn tri fi'n meddwl am hwnna…

Ffynhonnell y llun, Michael Ochs Archives
Disgrifiad o’r llun,

Jest i ti Hanna - llun o Ringo yn serennu yn y ffilm Help!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Llawer rhy embarassing i gyhoeddi ar ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw, ond os 'newch chi brynu diod i fi, falle 'na i rannu…

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Gwelwch cwestiwn wyth: dwi'n sensitif ac emosiynol ac yn crïo o hyd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

O gosh oes, digon ohonyn nhw. Smygu yw'r gwaethaf siŵr o fod, a fy nhueddiad i fod mor bengaled.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Parc Biwt yng nghanol Caerdydd yn yr hydref. Lle myfyriol iawn. Mae Soar y Mynydd ger Tregaron yn ail ddewis pwysig hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hanna yn mwynhau llonyddwch Parc Biwt, er fod prysurdeb y brifddinas ond ochr arall y castell, sy'n cuddio yn y coed

Y noson orau i ti ei chael erioed?

O'dd noson flwyddyn newydd 'leni yn sbesial. Yn Amsterdam ar ardd to fy ffrind hynaf yn gwylio tân gwyllt am orie a siarad am ein gobeithion am y flwyddyn nesa'.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Ystyfnig, emosiynol a dibynadwy.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff lyfr yw Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau gan Llwyd Owen. 'Nath y llyfr yma drawsnewid fy mherthynas gyda darllen a mae e wedi diffinio fi mewn sawl ffordd. O'dd e'n fraint anferth ca'l gweithio gyda Llwyd a chyfarwyddo ei ddrama gyntaf i'r Eisteddfod yn 2018.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mari Beard. Heb os. Fy nghymar gwaith a ffrind bythol. 'Dan ni'n crïo chwerthin yn aml.

Disgrifiad o’r llun,

Siŵr fod Mari a Hanna (yn y canol) wedi cael llawer iawn o hwyl yn portreadu'r 'boyband' bydenwog Rong Cyfeiriad ar y gyfres Chwarter Call ar S4C

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n un o oversharers y byd felly does dim llawer o ddirgelwch. Ond nes i ddarganfod wythnos yma bo' fi'n gallu atgyweirio teils Fictoraidd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bwyta ac yfed gyda fy hoff bobl yn y byd. Be' arall sydd i 'neud?

Beth yw dy hoff gân a pham?

Amhosib dewis un. Ond cân bwysig iawn i fi yw Fel Hyn am Byth gan Yr Ods. Dwi'n mynd nôl i gyfnod arbennig iawn yn fy mywyd pan dwi'n clywed y gân yna, ieuenctid, cariad a rhyddid.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dechre gyda sashimi tuna, wedyn pasta gyda bwyd môr yn cynnwys cimwch ac affogato i orffen. Loads o jin a gwin hefyd plis.

O archif Ateb y Galw:

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Theresa May i drio neud bach o damage control.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Griff Lynch