大象传媒

Protest cyn penderfyniad ar losgydd gwastraff Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae aelodau gr诺p Extinction Rebellion wedi casglu y tu allan i giatiau Biffa fore Mawrth

Mae protest yn cael ei gynnal cyn i Gyngor Abertawe benderfynu ddydd Mawrth ar dynged cynllun i adeiladu llosgydd gwastraff yn Llansamlet.

Mae aelodau gr诺p Extinction Rebellion wedi casglu y tu allan i giatiau Biffa - y cwmni tu 么l i'r cynllun.

Mae miloedd o bobl wedi gwrthwynebu'r prosiect, ac mae'r rheiny sy'n byw gerllaw yn dweud mai'r "unig ddihangfa" rhag llygredd fyddai symud oddi yno.

Mae Biffa yn mynnu y byddai lefelau llygredd yn is na'r hyn sy'n cael ei ganiat谩u yn 么l canllawiau safon aer y DU.

'Cam yn y cyfeiriad anghywir'

"Mae'n rhaid i ni weithredu nawr a gweithredu'n sydyn," meddai Jules Woodell, 54, sydd ymysg tua 12 o bobl sydd yno'n protestio fore Mawrth.

"Mae hyn yn gam yn y cyfeiriad anghywir - llosgi 20,000 tunnell o wastraff pob blwyddyn a rhoi carbon yn yr aer."

Ychwanegodd Mr Woodell bod y penderfyniad i brotestio yno yn un "munud olaf".

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd ac mae ganddyn nhw'r Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol - mae hyn yn mynd i'r gwrthwyneb o hynny," meddai.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y brotest yn gyrru neges gryf i gynghorwyr bod pobl Abertawe yn gwrthwynebu hyn yn llwyr."

Ffynhonnell y llun, Alan Thomson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae baneri wedi'u gosod ar giatiau Biffa - y cwmni tu 么l i'r cynllun

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai penderfyniad i'r awdurdod lleol, nid y llywodraeth, yw'r mater.

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe wedi awgrymu cymeradwyo'r cynllun, er bod dros 2,500 o lythyrau yn ei wrthwynebu wedi'u derbyn yn ystod yr ymgynghoriad.

Byddai'r llosgydd yn cymryd lle warws wag ym Mharc Menter Abertawe.

Fe fyddai'n prosesu 21,000 tunnell o wastraff diwenwyn fyddai fel arall yn mynd i gladdfa sbwriel ym Merthyr Tudfil, a byddai'n creu tua 10 o swyddi adeiladu a 15 swydd llawn amser.

'Derbyniol mewn egwyddor'

Mae adroddiad swyddogion cynllunio yn dweud bod y cynnig yn "dderbyniol mewn egwyddor, gan ei fod o fewn ardal fasnachol a diwydiannol".

Maen nhw'n nodi na fyddai'r llosgydd yn "cael effaith ar iechyd dynol, nac chwaith yn cael effaith amgylcheddol difrifol".

Ond cafodd "pryderon arwyddocaol" eu codi am ansawdd yr aer a'r effaith ar iechyd, yn 么l y swyddogion.

Er gwaethaf hynny, maen nhw'n dweud bod y bwrdd iechyd lleol ac isadran rheoli llygredd Cyngor Abertawe wedi dweud na fyddai'r llosgwr yn cael "effaith nodweddiadol" ar hynny.