大象传媒

Byddai mwy o nyrsys gwrywaidd yn 'chwalu rhwystrau'

  • Cyhoeddwyd
Richard Desir
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Richard Desir, a gafodd ei eni ym Manceinion, sydd wedi ei ddewis fel wyneb yr ymgyrch

Mae cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn credu byddai cynyddu nifer o nyrsys gwrywaidd yn "chwalu'r rhwystrau" ar gyfer cleifion gwrywaidd.

Daw'r alwad wrth i ymgyrch gael ei lansio i geisio a denu mwy o ddynion i'r proffesiwn nyrsio.

Yn 么l Helen Whyley, mae ymchwil yn dangos fod dynion yn llai tebygol o drafod eu problemau iechyd ac i chwilio am help.

Mae Ms Whyley yn credu byddai mwy o nyrsys gwrywaidd yn "newid meddyliau dynion am eu hiechyd a'r gallu i ddefnyddio gwasanaethau."

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud eu bod yn cydnabod bod prinder dynion yn gweithio fel nyrsys yng Nghymru.

Amrywiaeth

Mewn ymgais i gynyddu niferoedd, am y tro cyntaf eleni mae'r llywodraeth yn dweud y byddan nhw yn defnyddio dyn fel "hwyneb" ei hymgyrch recriwtio nyrsys.

Mae Richard Desir yn hanu yn wreiddiol o Fanceinion ac fe symudodd i Gymru gyda'i deulu yn 2007.

Mae'n gweithio ar hyn o bryd fel Uwch-nyrs yng Ngwent ac yn ol llywodraeth Cymru mae symud yma wedi ei helpu i ddatblygu ei yrfa a sicrhau ffordd o fyw cytbwys iddo ef a'i deulu ifanc.

Dywedodd Mr Desir "Ar 么l cymhwyso fel Nyrs Gofrestredig yn 1989, bues yn gweithio mewn amryw o leoliadau clinigol yng Ngogledd Lloegr.

Yna, cwrddais 芒'm gwraig sy'n dod o Gymru ac a oedd yn awyddus iawn i fagu ei theulu yng Nghymru.

Roedd symud yma'n gyfle i barhau 芒'n gyrfaoedd ac yn teimlo fel y peth naturiol i'w wneud.

Mae byw yng Nghymru yn wych o safbwynt gyrfa a theulu. Os ydych am roi cynnig ar rywbeth newydd, dewch i weld beth sydd gan Gymru i'w gynnig. Dw i'n addo na fyddwch yn 'difaru."

12% o nyrsys yn ddynion

O'r 32,927 o nyrsys, bydwragedd a staff sy'n ymweld 芒 chleifion yn eu cartref yng Nghymru, 12% ohonynt - 3,966 - sy'n ddynion.

Mae'r ffigyrau, o fis Medi 2018, yn dangos mai 9.5% o'r nyrsys cymwysedig sy'n wrywaidd, tra bod 17.6% o nyrsys heb gymhwyster yn ddynion.

Ychwanegodd Ms Whyley: "Yn hanesyddol mae nyrsio wedi cael ei weld fel gyrfa ar gyfer merched, ac mewn sawl cymuned mae'n parhau i fod yr un fath.

"Fe allai hyn droi dynion i ffwrdd rhag dewis nyrsio fel proffesiwn."

Dywedodd ei bod hi'n bwysig i ysgogi ac i recriwtio mwy o ddynion i adlewyrchu'r "amrywiaeth yn ein cymunedau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Helen Whyley yw Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru