Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tips positifrwydd Dr Ioan Rees
Er mwyn gwneud yn si诺r ein bod ni gyd yn parhau 芒'r agwedd gadarnhaol rydyn ni wedi dod i arfer a'i weld ar gyfres Ffit Cymru, mae Cymru Fyw wedi holi guru positifrwydd y rhaglen, y seicolegydd Dr Ioan Rees, am gyngor yngl欧n 芒 sut i fod yn fwy positif o ddydd i ddydd.
5 Tip Positifrwydd
1. Cymryd y cam cyntaf
Mae pob un ohonom ofn cymryd y cam cyntaf oherwydd ein bod ni'n ofni methu. Felly'r cyngor yw cymerwch y cam cyntaf, y cam anoddaf un. Wynebwch eich ofn.
2. Blaenoriaethu
Gofynnwch beth sy'n bwysig i chi? Yna, rhaid blaenoriaethu gwneud y pethau yna. Esgusodion yw popeth arall. Esgus yw'r celwydd rydych chi'n ei ddweud wrthych eich hunain er mwyn gwneud eich hun deimlo'n well am beidio gwneud y pethau hynny sy'n bwysig i chi.
3. Ymddaliad positif
Mae sut ry'n ni'n dal ein corff, ein hysgwyddau, ein pen, y cyswllt llygaid a sut ry'n ni'n defnyddio cyhyrau'r wyneb i gyd yn effeithio ar sut ry'n ni'n teimlo a sut ry'n ni'n ymddwyn. Mae hynny, yn ei dro, yn effeithio ar sut mae eraill yn deall a dehongli a'n gweld ni.
Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n defnyddio ein corff er mwyn creu teimlad o bositifrwydd. Trwy hyn, bydd eraill yn gallu gweld y da ynom ni hefyd.
4. Llwyddo a dysgu
Does dim y fath beth 芒 methiant, dim ond y gallu i lwyddo neu ddysgu. Os dydyn ni ddim yn llwyddo yn rhywbeth, er enghraifft ddim yn cael y swydd 'na, neu ddim yn cerdded milltir y diwrnod, peidiwch 芒 bod yn grac a cholli eich tymer neu ddigalonni, Codwch eich hunain lan a gyda mwy o egni yn eich bol ystyriwch "beth alla' i wneud yn wahanol a'i ddysgu?'
Yna gallwch fynd yn eich h么l a rhoi cynnig arall arni.
5. Sylwi ar y pethau positif
Rydyn ni naill ai'n gallu sylwi ar bethau negyddol neu ar bethau positif. Dw i'n awgrymu ein bod ni'n edrych ar y pethau positif. Dechreuwch drwy edrych ar bobl eraill mewn golau positif. Sylwch arnyn nhw a gadael iddyn nhw wybod. Nid yn unig y byddwch chi'n teimlo'n well o fod wedi eu canmol nhw neu ddiolch iddyn nhw, ond fe fyddan nhw'n teimlo'n well hefyd.
Hefyd, cymerwch ennyd yn y dydd i sylwi ar brydferthwch bywyd o'n hamgylch ni: rydyn ni'n fyw, yn byw bywyd, a gwerthfawrogwch y foment honno.