Disgyblion yn 'colli cwsg oherwydd defnydd sgriniau'

Disgrifiad o'r llun, Mae tua hanner disgyblon blwyddyn 11 yn edrych ar sgrin ar 么l 23:00

Mae disgyblion ysgol yn defnyddio sgriniau yn aml yn hwyr y nos ac mae traean ohonynt yn cael trafferthion cysgu oherwydd hynny, yn 么l arolwg.

Mae'r casgliadau'n rhan o arolwg o ymddygiad 104,000 o ddisgyblion Cymru sydd wedi'i gyhoeddi gan brifysgolion Caerdydd a Bryste.

Bu'r ymchwilwyr yn edrych ar sawl agwedd o fywydau disgyblion ysgol, gan gynnwys arferion cysgu a defnydd alcohol.

Roedd dros chwarter y plant rhwng 11 ac 16 oed gafodd eu holi yn defnyddio cyfrifiaduron neu ffonau symudol ar 么l 23:00.

Ymhlith disgyblion blwyddyn 11, roedd 46% o ddisgyblion yn defnyddio teclynnau electronig ar 么l 23:00.

Teimlo'n flinedig

Yn 么l tua thraean o ddisgyblion roedden nhw'n cael trafferth cysgu neu'n teimlo'n flinedig yn y bore.

Doedd un o bob pum disgybl ddim yn bwyta brecwast cyn mynd i'r ysgol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae 20% o ferched yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn "llawer rhy aml"

Ymhlith prif gasgliadau'r adroddiad:

  • Roedd un o bob pum person ifanc yn adrodd bod cyflwr eu hiechyd yn wael neu'n weddol dda. Roedd gan 25% iechyd ardderchog a 53% iechyd da;
  • Roedd 31% o ddisgyblion yn cael trafferthion cysgu neu yn teimlo'n flinedig;
  • Mae 15% of ddisgyblion blwyddyn 7 yn edrych ar sgrin electronig ar 么l 23:00 yn ystod yr wythnos. Mae'r ffigwr yn cynyddu i 46% o fyfyrwyr blwyddyn 11;
  • Mae 20% o ferched yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn "llawer rhy aml", o'i gymharu 芒 15% o fechgyn;
  • Mae gan 16% o bobl ifanc gyfrifoldebau gofal ar gyfer aelod o'u teulu sydd a phroblem iechyd neu anabledd;
  • Mae mwy 'na 80% o bobl ifanc yn teimlo eu bod dan rywfaint o bwysau oherwydd gwaith ysgol, gyda'r nifer yn cynyddu ymhlith plant a phobl ifanc h欧n;
  • Ymhlith y bobl ifanc oedd yn cael rhyw roedd 94% wedi cael rhyw pan oedden nhw yn iau nag oed cydsyniad;
  • Roedd 48% o'r rhai a holwyd yn adrodd nad oedden nhw'n yfed alcohol.

Yn 么l yr Athro Simon Murphy o Brifysgol Caerdydd: "Mae hyn yn dangos bod gan bobl ifanc yn eu harddegau nifer fawr iawn o faterion i ddelio 芒 nhw.

"Trwy ymchwilio i'r materion yma rydym yn medru rhoi tystiolaeth i wneuthurwyr polisi, rhieni ac athrawon er mwyn eu cefnogi".