Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Posib newid arweinwyr Cwm Taf wedi adolygiad 'brawychus'
Mae'r dyn sy'n arwain panel annibynnol i oruchwylio gwelliannau yn adran mamolaeth Cwm Taf Morgannwg wedi dweud na fydd yn oedi cyn awgrymu newidiadau person茅l os bydd angen.
Fe gyfaddefodd Mick Giannasi fod yr adolygiad ym mis Ebrill yn "frawychus" ac yn "anodd ei ddarllen".
Bydd Aelodau Cynulliad yn holi penaethiaid y bwrdd iechyd yn ddiweddarach, yn sgil galwadau am ymddiswyddiadau.
Gallai'r panel edrych ar achosion o ofal gwael - gan gynnwys marwolaethau babanod - dros gyfnod o ddegawd.
Cafodd Mr Giannasi ei benodi gan y gweinidog iechyd ar 么l i wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles gael eu rhoi o dan fesurau arbennig.
Addawodd y byddai'r panel yn "gadarn" ac yn herio Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wrth gyflwyno gwelliannau.
Daeth adolygiad gan ddau goleg brenhinol i'r casgliad fod gwasanaethau "dan bwysau eithriadol" ac yn "gamweithredol", tra bod mamau'n cael profiadau gofidus o ran sut y cawson nhw eu trin.
"Mae'n un o'r adroddiadau mwyaf dirdynnol rydw i wedi ei ddarllen erioed - ac rydw i wedi bod mewn gwasanaeth cyhoeddus ers 43 mlynedd," meddai'r cyn-brif swyddog heddlu, Mr Giannasi, yn ei gyfweliad cyntaf ers ei benodiad.
"Mae'n anodd iawn darllen y pethau hynny os ydych chi'n angerddol am wasanaeth cyhoeddus a'r GIG, fel fi.
"Y rhan anoddaf oedd darllen geiriau'r teuluoedd, eu straeon a'r effaith ar eu bywydau.
"Y disgwyl yw y byddwch yn trin pobl ag urddas, parch, gofal a thosturi - pan welwch nad yw hynny wedi digwydd, dyna'r peth anodd i mi."
Datrys problemau
Bydd pedwar uwch swyddog Cwm Taf Morgannwg - gan gynnwys y prif weithredwr, Allison Williams a'r cadeirydd, yr Athro Marcus Longley - yn cael eu holi gan bwyllgor iechyd y Cynulliad.
Pan ofynnwyd i Mr Giannasi a allai argymell newidiadau mewn swyddi uwch, dywedodd: "Os oes gennyf reswm da, gyda thystiolaeth, i awgrymu bod camau gweithredu penodol yn briodol, yna byddaf yn cyfeirio'n 么l at weinidogion a'r bwrdd iechyd - dyna ran o'm cylch gorchwyl.
"Er mwyn bod yn glir, mae yna amgylchiadau pan fo newid person茅l yn gwbl gywir, ond nid bob amser.
"Weithiau, y bobl orau i ddatrys y broblem yw'r rhai a oedd yno pan gafodd ei chreu."