"Os mae iaith yn bodoli, mae'n werth ei siarad"

Disgrifiad o'r fideo, Fe wnaeth Cymru Fyw gwrdd 芒 Geordan Burress ar ymweliad 芒 Chymru yn ddiweddar

Caneuon Cymraeg Super Furry Animals a ysbrydolodd Geordan Burress o Cleveland, Ohio i ddysgu Cymraeg gyntaf, a hynny yn 么l yn 2011.

Mae hi wedi teithio i Gymru am y tro cyntaf, ac wedi cael digon o gyfle i ymarfer ei Chymraeg a chwrdd 芒 ffrindiau newydd yn ystod ei hwythnos yma.

Ac er ei bod yn gorfod dychwelyd adref i'r Unol Daleithiau, mae hi'n edrych ymlaen at ei hymweliad nesaf 芒 Chymru yn barod.