'Nid yw tew yn air drwg'

Mae Ffion-H芒f Davies o Bontarddulais yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ac mae ganddi neges i gymdeithas sy'n beirniadu pobl am fod yn dew.

A hithau newydd gyrraedd rownd derfynol gwobrau'r Wicked Young Writers, yma mae hi'n ysgrifennu i Cymru Fyw am beryglon cywilyddio pobl am eu pwysau.

Ffynhonnell y llun, Ffion-H芒f Davies

Disgrifiad o'r llun, Ffion-H芒f Davies, aelod dros G诺yr yn Senedd Ieuenctid Cymru

Fy enw i yw Ffion a 'dw i'n dew.

Rwyf wedi ceisio osgoi'r gair 'tew' am ran fwyaf o'm mywyd. Wrth i mi ddweud fy mod yn dew daw c么r o "na, d'wyt ti ddim" i geisio fy nghysuro.

Ond y peth yw, mae'n wir. Mae fy BMI (body mass index) yn dangos mod i dros bwysau a 'dw i'n gweld y braster ar fy nghorff yn ddyddiol ac, i mi, dyna yw fy nghorff.

'Dyw bod yn dew ddim yn fy ngwneud yn llai o berson, dyw e ddim yn effeithio ar fy llwyddiannau na fy mhrydferthwch. Gair sy'n datgan ffaith yw tew.

'Dw i'n adennill y gair yma oherwydd nid yw tew yn air drwg.

Portread diraddiol

Pa fath o gymeriadau yw'r cymeriadau tew ar y teledu? Ydych chi erioed wedi gweld tywysoges Disney tew? Beth am arch-arwr tew? Na? Na finnau. Gan amlaf cymeriadau stoc yw nhw sy'n bwyta pob eiliad o bob rhaglen.

Felly nid yw'n syndod bod plant mor ifanc 芒 phump oed wedi dechrau poeni am eu pwysau. Pan nad ydych yn gweld pobl tew yn llwyddo i wneud unrhyw beth sylweddol tu hwnt i fwyta, mae'n creu cambortread o werth unigolyn tew.

Ni fyddem yn caniat谩u portread diraddiol o hil, rhyw neu duedd rhywiol felly pam ydy ni'n caniat谩u portread diraddiol o bobl tew? Mae'n gosod safonau dwbl sy'n awgrymu bod y rhai ohonom sy'n dew yn llai pwysig.

Mae'n teimlo fel bod cymdeithas yn mesur llwyddiant drwy fesur diffyg braster. Os ydych yn dew, ni allwch fod yn llwyddiannus. Os ydych yn dew, mae angen i chi colli pwysau. Os ydych yn dew, nid ydych yn ddigon dda.

Celwydd noeth, wrth gwrs. Ond dyma'r negeseuon sy'n cael eu hanfon i bobl tew ddydd ar 么l dydd trwy'r cyfryngau, system addysg a bywyd bob dydd.

Ond nid dewis bod yn dew wnes i. 'Doeddwn i heb benderfynu 'ti'n gwybod beth, 'dw i am fod yn dew er mwyn i gymdeithas fy mhoeni'. Wrth i fy mhwysau godi roedd y straen oddi wrth gymdeithas i'w golli hefyd yn cynyddu.

Dechreuais i sylwi ar fy mhwysau pan oeddwn i'n 10 mlwydd oed. Er nad oeddwn i'n teimlo cywilydd, ro'n i'n clywed y sylwadau fel 'trueni ei bod yn dew' neu 'os fydden nhw'n colli pwysau bydden nhw'n hardd' ym mhob agwedd o fywyd. Roedd bod yn dew yn beth gwael, i'w osgoi.

Ffynhonnell y llun, Ffion-H芒f Davies

Disgrifiad o'r llun, Mae Ffion-H芒f yn dweud ei bod wedi osgoi'r gair 'tew' am ran fwyaf o'i bywyd

'Argyfwng' i gymdeithas

Yn 么l y newyddion, mae pobl tew yn 'argyfwng' ond os ydym yn siarad allan yn erbyn yr anghyfiawnder yma rydym yn hyrwyddo gordewdra ac yn rhoi straen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

Yn amlwg mae goblygiadau iechyd i fod yn dew. Nid wyf eisiau cael f'atgoffa bob eiliad o bob dydd bod fy nghorff yn argyfwng ond mae'n teimlo fel mai dyna yw neges pob erthygl.

Mae'r neges ddiddiwedd yma'n gallu arwain at ddiffyg hunan-hyder a gall arwain at broblemau iechyd meddwl sy'n ychwanegu straen pellach ar y gwasanaethau iechyd meddwl yn ogystal 芒'r GIG.

'Dydw i ddim yma i ddweud wrthoch i fagu pwysau ond mae angen i ni garu'n hunain ac adennill y gair yma yn lle ei ofni.

Cywilyddio corfforol

Ni welaf reswm i gywilyddio gan fod pawb yn wahanol a dyna yw natur bywyd.

Fel merch 16 oed rwy'n rhy ifanc i bleidleisio na gyrru a 'dw i heb hyd yn oed orffen fy arholiadau TGAU eto ond rwyf yn ymwybodol o gywilyddio corfforol a'r effaith mae'n gallu cael. 'Dw i wedi cael fy nghyflyru trwy'r ysgol a'r cyfryngau i gredu bod fy nghorff yn ofnadwy a'i fod yn faich.

Nid wyf yn oedolyn eto ond rwyf wedi derbyn oes o gywilydd oherwydd casineb diangen.

Dim ond ansoddair yw tew, datganiad o ffaith a 'dwi 'di cael digon ar ofni'r gair yma.

Os ydych yn dew, gadewch i ni ddweud wrth y byd bod hynny'n dderbyniol. Carwch eich hun. Carwch eich pwysau. Carwch eich braster neu ddiffyg braster. Carwch y ffaith na fydd gan neb yr un corff 芒 chi. Gadewch i ni ddweud wrth y byd nad ydym yn ofni bod yn dew.

Galwch ni'n dew ond nid yw tew yn air drwg.

Hefyd o ddiddordeb