大象传媒

Michael Sheen ac enwogion eraill Pobol y Cwm

  • Cyhoeddwyd
Michael Sheen

Fe fydd un o s锚r Hollywood i'w weld ar Pobol y Cwm nos Lun 3 Mehefin, neb llai na'r actor o Bort Talbot Michael Sheen.

Yn dilyn sgarmes ar ddibyn yr hen bwll glo, bydd un o gymeriadau'r Cwm yn cael eu trin gan feddyg sy'n wyneb newydd i Gwmderi ond fydd yn gyfarwydd iawn i'r gynulleidfa.

Meddai Nest Gwenllian Roberts, Cynhyrchydd y Gyfres:

"Roedd rhan y doctor ym mhennod heno yn bodoli ac roeddem wedi edrych ar sawl actor i chwarae'r rhan. Daeth i fy sylw bod Michael yn gwneud tipyn o waith yng Nghymru ar hyn o bryd... mae'r gweddill yn hud a lledrith.

"Bu Michael yn ffilmio gyda ni ar 10 Ebrill am fore cyfan, ac roeddem yn ffilmio ar set Casualty. Mae mewn cyfanswm o dair golygfa. Roedd hi'n bleser ei gael ar y set.

"Rhaid cyfaddef bod buzz y diwrnod hwnnw, ond fel pob diwrnod prysur o ffilmio yng Nghwmderi aeth pawb ati'n ddyfal i wneud eu gwaith."

Ond nid Michael Sheen yw'r seleb cyntaf i droedio strydoedd Cwmderi am un bennod yn unig...

Rhys Meirion

Yn 2017 daeth y tenor a chyflwynydd Rhys Meirion i Gwmderi i swyno Anita ar ei phen blwydd. Mewn parti sypreis yn y Deri, fe ganodd Anfonaf Angel yn arbennig iddi. Hyfryd!

Ray Gravell

Yn 1975 yr ymddangosodd Ray yn y Cwm. Mae'n si诺r ei fod wedi mwynhau ei hun, er fod y llun yn awgrymu fod cymeriad Huw Ceredig, Reg, yn cael mwy o hwyl na Ray druan. Mae ambell seren rygbi arall wedi ymddangos yng Nghwmderi hefyd gan gynnwys Jonathan Davies a Robin McBryde.

Michael Aspel

Yn 2004, roedd Diane yn hyderus fod bocs gemwaith oedd wedi ei adael iddi yn ewyllus Reg Harries werth ffortiwn. Felly ble well i fynd i ddarganfod ei werth na rhaglen Antiques Roadshow?! Dyna sut daeth Michael Aspel i ymddangos yn y gyfres, ond newyddion drwg gafodd Diane druan am werth y bocs...

Imogen Thomas

Ym mis Hydref 2006, ychydig fisoedd ar 么l dod allan o d欧 Big Brother roedd Imogen draw yng Nghwmderi, i agor garej ceir newydd. Mae Glyn Wise, oedd ar yr un gyfres Big Brother ag Imogen, hefyd wedi ymddangos ar Pobol y Cwm.

Welsh Whisperer

Yn 2018, cafodd y Welsh Whisperer y cyfle i berfformio yng Nghwmderi - breuddwyd oes iddo, mae'n si诺r! Tybed gafodd ymweld 芒 fferm Pen-rhewl?

Giant Haystacks ac El Bandito

Daeth y reslwyr Giant Haystacks ac El Bandito (neu Orig Williams) draw i'r Cwm yn 1990 i gymryd rhan mewn gornest reslo. Roedd Bella wedi cyffroi'n l芒n, gan ei bod hi dipyn o ffan o reslo, ac wrth ei bodd yn cwrdd 芒'i harwr. Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd merch Orig Williams, Tara Bethan, yn actio Angela Probert yn y gyfres.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sarjant Glyn James yn cael geiriau gydag El Bandito

Sir Dave Brailsford

Yn 2016 daeth pennaeth Team Sky i Gwmderi er mwyn agor canolfan Awyr Iach. Yn y bennod fe wnaeth gymharu cymuned agos Cwmderi i'r un yn Neiniolen, y pentref ble cafodd ei fagu.

Lisa Gwilym

Daeth y cyflwynydd Lisa Gwilym i'r Cwm ym mis Mawrth 2019 i ddadorchuddio diffibrilydd newydd y pentref.

Russell Grant

Yn dilyn ei ymddangosiad ar Strictly Come Dancing, daeth Russell draw i Gwmderi yn 2017 i helpu 芒 fersiwn y pentref o'r gystadleuaeth ddawnsio enwog, sef Strictly Cwm Dancing.

Gallwch weld Michael Sheen ar Pobol y Cwm ar S4C am 20.00 Nos Lun 3 Mehefin ac ar 大象传媒 iPlayer wedi'r darllediad

Hefyd o ddiddordeb: