´óÏó´«Ã½

Mark Drakeford yn gwrthod cynllun ffordd liniaru'r M4

  • Cyhoeddwyd
M4
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod tua £44m wedi cael ei wario ar gostau datblygu'r cynllun a'r ymchwiliad

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cefnu ar gynlluniau £1.6bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4.

Dywedodd Mark Drakeford mewn datganiad fore Mawrth bod y cynllun wedi ei wrthod yn sgil canfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus.

Roedd dyfalu cynyddol fod y Prif Weinidog yn amheus o fanteision y cynllun yn enwedig ar ol i'r llywodraeth gyhoeddi argyfwng hinsawdd.

Yn ôl Mr Drakeford byddai'r cynllun yn cael "effaith andwyol sylweddol" ar fywyd gwyllt yn ardal Gwastadeddau Gwent.

Bydd comisiwn arbenigol nawr yn cael ei apwyntio i gynghori'r llywodraeth ar sut i leihau tagfeydd yn ardal Casnewydd.

Ers i lywodraeth y DU roi pwerau benthyg arian i Lywodraeth Cymru mae gweinidogion wedi ystyried adeiladu traffordd chwe lôn i'r de o Gasnewydd - gan ail-atgyfodi cynlluniau sy'n deillio'n ôl i 1991.

Nododd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad 2016 y byddai'r blaid yn adeiladu "ffordd liniaru'r M4", a chafodd ymchwiliad cyhoeddus ei gomisiynu dan arweiniad y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones.

Ym mis Chwefror nododd ´óÏó´«Ã½ Cymru bod £44m wedi cael ei wario ar y costau datblygu a'r ymchwiliad.

Disgrifiad,

Dywedodd Mark Drakeford nad yw'r arian gafodd ei wario ar ymchwiliad cyhoeddus yn wastraff

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Rwy'n cydnabod casgliadau'r arolygydd ynghylch manteision ac anfanteision y prosiect. Fodd bynnag, rwy'n rhoi mwy o bwys na'r arolygydd ar yr effeithiau andwyol y câi'r prosiect ar yr amgylchedd.

"Yn arbennig, rwy'n rhoi pwys mawr iawn ar y ffaith y câi'r prosiect effaith andwyol sylweddol ar SoDdGAoedd Gwastadeddau Gwent a'u rhwydwaith o ffosydd a'i fywyd gwyllt, ac ar rywogaethau eraill, ac y câi effaith andwyol barhaol ar dirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent

"O ganlyniad, yn fy marn i mae effeithiau andwyol y prosiect ar yr amgylchedd (o'u cymryd gyda'i anfanteision eraill) yn drech na'i fanteision."

Dywedodd Mr Drakeford wrth Aelodau Cynulliad brynhawn Mawrth y bydd comisiwn arbenigol yn cael ei benodi i gynghori'r llywodraeth ar sut i ddelio â thagfeydd ar yr M4.

"Gallaf gyhoeddi y bydd comisiwn arbenigol yn cael ei benodi er mwyn adolygu'r dystiolaeth a chynnig argymhellion a datrysiadau er mwyn mynd i'r afael â'r mater," meddai.

Yn ôl y Prif Weinidog bydd "cyfres o ymyriadau yn cael eu gwneud ar frys" er mwyn lleihau tagfeydd ar y ffordd.

Ychwanegodd y byddai'r Gweinidog ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn cyhoeddi manylion pellach am y comisiwn yn fuan.

'Gwastraffu blynyddoedd'

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mae amhendantrwydd y Prif Weinidog wedi "gwastraffu blynyddoedd" pryd y gellid fod wedi cynllunio gwelliannau eraill i ffyrdd yn y de ddwyrain.

"Mae hon yn ffordd warthus i lywodraeth ddod i benderfyniadau allweddol," meddai.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds ei bod hi'n "falch na fydd ffordd liniaru'r M4 yn digwydd".

"Mae angen taclo traffig yn ne ddwyrain Cymru, ond nid dyma'r ateb. Mae'r gost ariannol ac amgylcheddol yn rhy uchel."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl i'r cynllun gostio hyd at £1.6bn i'w gwblhau

Mae CBI Cymru, sy'n cynrychioli arweinwyr busnes, ac oedd eisiau i'r cynllun fynd yn ei flaen, wedi disgrifio'r penderfyniad fel "diwrnod tywyll i economi Cymru".

"Ar ôl degawd o drafod a gwario dros £40m, does 'na ddim problem wedi'i datrys heddiw," meddai cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price.

"Dim ond cynyddu fydd llygredd a thraffig o amgylch Casnewydd nawr. Bydd twf economaidd yn cael ei fygu, bydd hyder yn y rhanbarth a chost ffordd liniaru yn y pendraw yn cynyddu.

Yn ôl cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, mae'r newyddion yn "ergyd enfawr" i economi'r wlad.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Steffan Messenger

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Steffan Messenger

Roedd gwrthwynebiad chwyrn i'r cynllun gan grwpiau amgylcheddol gan fod yr ardal yn cynnwys wyth safle o ddiddordeb gwyddonol eithriadol ac wedi'i dynodi'n warchodfa natur cenedlaethol.

Yn ôl cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar, mae hyn yn "newyddion gwych i Gymru a'r blaned.

"Mae'r penderfyniad hwn yn glod i ymdrechion diflino trigolion lleol sydd wedi gwrthwynebu'r cynllun hwn dros ddegawdau ac mae'n arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei datganiad argyfwng hinsawdd ac ymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol o ddifrif."

Mae RSPB Cymru hefyd yn dweud eu bod yn "teimlo rhyddhad ac wedi ein hysbrydoli gan y penderfyniad".

'Diwrnod tywyll i Gymru'

Roedd awdur yr ymchwiliad annibynnol, William Wadrup wedi awgrymu bod "achos cryf" dros fwrw 'mlaen â'r ffordd "er mwyn lliniaru problem ddifrifol ar y rhwydwaith traffyrdd strategol".

"Mae'r cynllun er budd y cyhoedd... a dylid caniatáu iddo fynd rhagddo er gwaethaf y dirwedd a'r amgylchedd sensitif y byddai'n mynd drwyddynt.

"Ni fyddai'r cynllun, yn fy marn i, yn cael unrhyw effeithiau niweidiol anghymesur," meddai.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi dweud wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru ei bod yn "ddiwrnod tywyll i Gymru".

Yn dilyn y penderfyniad dywedodd: "Mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn credu ei fod yn gwybod yn well na'r ymchwiliad annibynnol."