大象传媒

Crynodeb

  • Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd yn cael ei hadeiladu

  • Bu'r ffordd liniaru ger twnneli Bryn-glas yn destun trafod ers 1992

  • Byddai'r cynllun wedi costio oddeutu 拢1.4bn

  • Mae amgylcheddwyr wedi gwrthwynebu'r cynllun o'r cychwyn

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Dyna ddiwedd ar ein llif byw am y tro, ond gallwch ddilyn Senedd Fyw ar ein hafan i weld y Prif Weinidog Mark Drakeford yn siarad yn y Senedd am ei benderfyniad, a chlywed yr ymateb o fewn y Siambr i'r cyhoeddiad.

    Diolch yn fawr am ddarllen, a hwyl fawr.

  2. Mwy ar Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Taro'r Post
    大象传媒 Radio Cymru

    Fe fydd Taro'r Post ar 大象传媒 Radio Cymru yn trafod cyhoeddiad Mark Drakeford yn ystod yr awr nesaf.

    Cofiwch gysylltu 芒'r rhaglen!

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Dim atebion amgenwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Dywedodd Heather Myers a Harry Lloyd-Davies o Siambr Fasnach De a Chanolbarth Cymru eu bod yn hynod siomedig gyda'r cyhoeddiad.

    "Bydd pobl sy'n symud nwyddau o gwmpas neu'n teithio i'r gwaith ar y draffordd yn wynebu blynyddoedd pellach o anhrefn, gan atal twf economaidd.

    "Roedd y gwrthwynebiad i'r ffordd liniaru wedi canolbwyntio ar ddadleuon fod dewisiadau rhatach oedd yn well i'r amgylchedd, ond rydym wedi ein syfrdanu nad yw'r atebion amgen yna wedi eu cynnig heddiw.

    "Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gynnig datrysiad."

  4. Ymateb un o wrandawyr Taro'r Postwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Twitter

    Mae Gwilym Dafydd yn dweud bod pwysigrwydd diogelu Gwastadeddau Gwent yn drech na "rhwystredigaeth achlysurol" cael ei ddal mewn tagfeydd.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Angen ateb hir dymorwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Llafur Cymru

    Wth groesawu cyhoeddiad Mark Drakeford, dywedodd AC Llafur Pontypridd, Mick Antoniw:

    "Fel aelod o'r pwyllgor Cynulliad a wnaeth ymchwilio i'r ffordd liniaru yn 2014, fy marn oedd fod y cynllun yn anghynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol.

    "Byddai'r cynllun wedi costio 拢2bn... ac yn fy marn i wedi arwain at gynnydd yn y defnydd o geir, traffig a llygredd. Dyw adeiladu ffyrdd newydd drud yn datrys dim byd, heblaw eich cael chi i'r tagfeydd nesaf yn gyflymach.

    "Yn y tymor hir, yr hyn sydd angen yw cynnig dewis arall i geir preifat drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Yn amlwg mae angen mesurau i ddelio gyda thrafferthion penodol o amgylch Casnewydd, ond byddai bwrw 'mlaen gyda'r 'llwybr du' ond wedi golygu gohirio ateb cynaliadwy."

    antoniw
  6. 'Yr ardal yn cael ei dal yn 么l'wedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Mae llefarydd ar ran Cytundeb Dinesig Dinas-Ranbarth Caerdydd wedi dweud eu bod yn "hynod siomedig" yngl欧n 芒'r penderfyniad heddiw.

    "Mae'n rhaid i ni nawr weithio er mwyn cael prosiectau isadeiledd arall i sicrhau bod de Cymru'n parhau i symud," meddai.

    "Roedd y ffordd newydd yn allweddol i gefnogi a galluogi i strategaeth economaidd a diwydiannol de-ddwyrain Cymru dyfu.

    "Rydyn ni'n pryderu, heb y ffordd, y bydd yr ardal yn cael ei dal yn 么l gan isadeiledd trafnidiaeth hen, sydd ddim yn gallu dygymod 芒'r galw."

  7. 'Diwrnod tywyll'wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Dywedodd Robert Lloyd Griffiths, pennaeth Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru (IoD): "Mae hyn yn hynod siomedig.

    "Mae problemau traffig yn ein dal ni n么l ac yn atal buddsoddwyr rhag ein ystyried fel masnachwyr hyfyw.

    "Ar ran arweinwyr busnes, y neges oedd 'gwellwch yr M4, a gwnewch e nawr'. Ry'n ni'n gwybod nawr na fydd hynny'n digwydd.

    "Mae'n ddiwrnod tywyll i economi Cymru."

  8. 'Achos cryf' dros adeiladu'r ffordd, medd ymchwiliadwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Yn yr ymchwilad annibynnol i'r cynllun, roedd yr awdur William Wadrup wedi awgrymu bod "achos cryf" dros fwrw 'mlaen 芒'r ffordd.

    "Yn fy marn i, ceir achos cryf dros weithredu鈥檙 cynllun er mwyn lliniaru problem ddifrifol ar y rhwydwaith traffyrdd strategol," meddai.

    "Mae鈥檙 cynllun er budd y cyhoedd... a dylid caniat谩u iddo fynd rhagddo er gwaethaf y dirwedd a鈥檙 amgylchedd sensitif y byddai鈥檔 mynd drwyddynt.

    "Ni fyddai鈥檙 cynllun, yn fy marn i, yn cael unrhyw effeithiau niweidiol anghymesur."

  9. Alun Cairns yn beirniadu Mark Drakefordwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru ei bod yn "ddiwrnod tywyll i Gymru".

    Ar 大象传媒 Radio Wales y bore 'ma roedd wedi dweud y byddai ffordd liniaru yn "ateb gofynion dau draean o economi Cymru, a dyna pam ei fod mor bwysig".

    Yn dilyn y penderfyniad dywedodd: "Mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn credu ei fod yn gwybod yn well na'r ymchwiliad annibynnol."

  10. Anfodlonrwydd AC Llafurwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Mae Jayne Bryant, AC Llafur Gorllewin Caerdydd, wedi mynegi siom am benderfyniad Mr Drakeford, gan ddweud: "Rwy'n siomedig iawn na fydd y ffordd liniaru'n cael ei hadeiladu.

    "Rwy'n gwbl sicr y dylai'r arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer ffordd liniaru gael ei wario ar ddatrys y broblem yma o amgylch Casnewydd."

  11. 'Penderfyniad dewr' yn 么l RSPB Cymruwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    RSPB

    Mae RSPB Cymru yn dweud eu bod yn "dathlu cyhoeddiad y Llywodraeth na fyddan nhw yn mynd ymlaen 芒 Llwybr Du'r M4."

    "Rydym wedi cael rhyddhad anhygoel nad yw鈥檙 darn 14 milltir o鈥檙 draffordd mwyach yn bygwth distrywio鈥檙 bywyd gwyllt prin sydd ar Wastadeddau Gwent," meddai llefarydd.

    "Rydym yn teimlo rhyddhad ac wedi ein hysbrydoli gan y penderfyniad, sydd yn arwydd fod gan Gymru Lywodraeth sy鈥檔 cymryd datblygiad cynaliadwy o ddifrif.

    "Diolch i鈥檙 penderfyniad dewr a blaengar hwn, rydym nawr yn gwybod y gall ein plant fwynhau harddwch, bywyd gwyllt, hanes a buddiannau iechyd y mae Gwastadeddau Gwent yn ei ddarparu am lawer o flynyddoedd i ddod, ac am genedlaethau lawer wedi hynny."

  12. 'Gwarthus' medd y Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Ceidwadwyr Cymreig

    Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Fusnes, yr Economi ac Isadeiledd yw Russell George, a dywedodd:

    "Mae'r cyhoeddiad yn ergyd i gymudwyr Cymru ac i ffyniant y dyfodol i'r wlad.

    "Wedi blynyddoedd o gicio'u sodlau ac oedi gan lywodraethau Llafur yng Nghymru, gwario 拢44m ar ymchwiliad cyhoeddus a sawl cais gan arweinwyr busnes, daeth dim byd o'r cyfan.

    "Mae'n warthus bod y Prif Weinidog wedi tywallt miliynau ar gwblhau'r ymchwiliad cyhoeddus cyn anwybyddu'i gasgliadau.

    "Rwy'n annog Mr Drakeford i gyflwyno cynlluniau amgen ar unwaith am sut y bydd yn lleddfu'r problemau traffig ar yr M4."

    george
  13. 'Enghraifft arall o Gymru'n colli allan'wedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Mae CECA Cymru, sy'n cynrychioli nifer o fusnesau peirianneg sifil, yn dweud bod y penderfyniad yn "enghraifft arall o Gymru'n colli allan".

    "Dyma benderfyniad gwarthus o araf sydd wedi'i effeithio'n sylweddol gan ddiffyg arweinyddiaeth gwleidyddol, ac felly bydd y problemau i fusnesau a chymunedau yn y rhan yma o Gymru yn parhau," meddai cyfarwyddwr CECA Cymru, Ed Evans.

    "Mae'r sector peirianneg sifil yn edrych ymlaen at glywed ar frys sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu defnyddio ei phwerau benthyg i fuddsoddi yn isadeiledd Cymru gyda chynlluniau arall."

  14. Siom y diwydiant adeiladuwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    CITB Wales yw'r corff sy'n cynrychioli'r diwydiant adeiladu yng Nghymru, a dywedodd eu cyfarwyddwr Mark Bodger:

    "Byddai ffordd liniaru'r M4 wedi arwain at gynnydd yn nifer y swyddi adeiladu yma, gyda chyfleoedd gwerthfawr am hyfforddiant a sgiliau."

  15. 'Newyddion gwych i Gymru a'r blaned'wedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Cyfeillion y Ddaear

    Yn ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar: "Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru a'r blaned.

    "Yn ogystal 芒 chostio dros 拢2bn o bunnoedd i drethdalwyr Cymru, byddai'r ffordd ddinistriol hon wedi hollti trwy amgylchedd unigryw Gwastadeddau Gwent sydd 芒 chyfoeth o fywyd gwyllt, wedi pwmpio mwy o allyriadau sy'n difetha'r hinsawdd i mewn i'n hatmosffer, ac yn y pen draw wedi achosi mwy byth o dagfeydd a llygredd aer.

    鈥淢ae'r penderfyniad hwn yn glod i ymdrechion diflino trigolion lleol sydd wedi gwrthwynebu'r cynllun hwn dros ddegawdau ac mae'n arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei datganiad argyfwng hinsawdd ac ymrwymiad i genedlaethau鈥檙 dyfodol o ddifrif.

    鈥淣awr rydym angen buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth gynaliadwy o amgylch Casnewydd a ledled Cymru i helpu i adeiladu dyfodol glanach, mwy diogel i ni i gyd.鈥

    Gwastededdau GwentFfynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
  16. Bydd mwy ar Newyddion 9 henowedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Newyddion 9

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Dadansoddiad Steffan Messengerwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Mynd yn erbyn maniffesto Llafur Cymruwedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru ar Twitter

    Twitter

    Fel mae Daniel Davies yn nodi, mae penderfyniad Mark Drakeford yn mynd yn erbyn maniffesto Llafur Cymru yn 2016, oedd yn dweud eu bod wedi ymrwymo i adeiladu'r ffordd.

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Comisiynydd wedi'i phlesiowedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    Twitter

    Roedd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, wedi gwrthwynebu cynllun y ffordd liniaru ers tro.

    Mae hi wrth ei bodd gyda'r penderfyniad, ac yn ei ddisgrifio fel un "dewr".

    Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniat谩u cynnwys Twitter?

    Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

    Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. 'Diwrnod tywyll i economi Cymru'wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2019

    大象传媒 Cymru Fyw

    Mae CBI Cymru, sy'n cynrychioli arweinwyr busnes ac oedd eisiau i'r cynllun fynd yn ei flaen, wedi disgrifio penderfyniad Mark Drakeford fel "diwrnod tywyll i economi Cymru".

    "Ar 么l degawd o drafod a gwario dros 拢40m, does 'na ddim problem wedi'i datrys heddiw," meddai cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price.

    "Dim ond cynyddu fydd llygredd a thraffig o amgylch Casnewydd nawr. Bydd twf economaidd yn cael ei fygu, bydd hyder yn y rhanbarth a chost ffordd liniaru yn y pendraw yn cynyddu.

    "Mae'r penderfyniad heddiw yn fesur tymor byr sy'n datrys dim ac yn gyrru'r neges nad yw Cymru'n agored i fusnesau."