Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y ffoadur wnaeth ddianc o Affrica a dysgu Cymraeg
Fe wnaeth Joseph Gnagbo ffoi o Affrica pan oedd ei fywyd mewn perygl gan adael ei blant, ei deulu a'i famwlad.
15 mis ar 么l cael lloches yng Nghymru mae'n siarad Cymraeg ac yn gwirfoddoli hefo Cymdeithas yr Iaith.
Dywedodd: "Mae rhai pobl yn meddwl bod Cymraeg yn rhy anodd, dwi'n gallu dweud dyw Cymraeg ddim yn hawdd ond dwi'n meddwl mae'n bosib. Rhaid dysgu'r iaith."
Nawr mae ei stori yn cael ei hadrodd mewn arddangosfa yng Nghanolfan y Mileniwm sy'n olrhain hanes unigolion sydd wedi eu herlid o'u gwlad.
Chwyldro Y Traeth Ifori
Yn 2010 roedd Joseph Gnagbo yn byw yn Y Traeth Ifori yng ngorllewin Affrica, a'r wlad yng nghanol chwyldro milwrol.
Roedd dinas fwyaf y wlad, Abidjan, dan warchae a Joseph yn un o'r dinasyddion oedd yn llafar ei farn.
Fe recordiodd g芒n rap yn galw ar ei gyd-wladwyr i wrthsefyll y chwyldro.
Ond ni chafodd y gair olaf oherwydd pan drechwyd y llywodraeth gan y milwyr, fe ddaeth yn darged.
Cuddio rhag cael ei ddal
"Bryd hynny roeddet ti'n teimlo bod marwolaeth rownd y gornel," meddai.
"Roedd y rebeliaid yn targedu'r heddlu a'r lluoedd diogelwch gyntaf, a chafodd nifer eu lladd.
"Wedyn roedd pobl fel ni oedd wedi bod yn codi llais yn cael eu targedu nesa'."
Bu'n rhaid iddo ddechrau cuddio rhag y milwyr arfog oedd nawr yn rheoli'r wlad, lladdwyd aelod o'i deulu ac roedd rhaid iddo ffoi i Foroco gan adael ei blant ifanc ar 么l.
Fe geisiodd am loches ym Mhrydain yn 2017 gan fod Moroco a'r Traeth Ifori yn agos谩u yn wleidyddol - a mis Mawrth llynedd fe ddaeth i Gymru.
Dysgu am Gymru a'r Gymraeg
"Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am Gymru cyn i fi symud yma dim ond am y faner gyda'r ddraig," meddai Joseph, sy'n 45 oed.
"Pan symudais i Gymru clywais i am y Gymraeg am y tro cyntaf ac roeddwn i'n meddwl ei bod yn ddiddorol iawn.
"I fi mae'n normal pan dwi'n byw yn y wlad i siarad iaith y wlad felly penderfynais ddysgu Cymraeg.
"Es i mas i edrych am bobl i helpu fi ddysgu Cymraeg a nawr dwi'n siarad Cymraeg - dwi bron yn rhugl, ond dwi ddim yn rhugl nawr!
"Dwi'n meddwl mae'n bwysig iawn siarad Cymraeg a helpu gyda'r iaith achos pan 'da ni'n siarad Cymraeg 'da ni'n helpu pobl o Gymru neu bobl sy'n dod o wledydd eraill gwybod mwy am ddiwylliant Cymru."
Dywedodd bod dysgu am hanes Cymru a'r frwydr i achub yr iaith wedi gwneud iddo werthfawrogi geiriau Hen Wlad fy Nhadau.
"Dwi wedi trio canu anthem Cymru ond pan dwi'n trio, dwi'n cofio hanes Cymru a dwi'n mynd yn emosiynol," meddai.
Cofleidio'r Gymraeg
Erbyn hyn mae'r g诺r o'r Traeth Ifori yn gweithio fel gofalwr yng Nghaerdydd ac yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith.
Dywedodd Colin Nosworthy o Gymdeithas yr Iaith: "Mae Joseph wedi cofleidio'r Gymraeg a diwylliannau unigryw Cymru. Ac yn amlwg, mae fe wedi dysgu'n rhyfeddol o dda.
"Rydyn ni'n falch o allu cynnig cyfle iddo fe gydweithio a gwirfoddoli gyda ni yn y Gymdeithas."
Er ei fod wedi ymgartrefu yng Nghymru mae plant Joseph dal yn Y Traeth Ifori a does ganddo ddim syniad os gawn nhw ddod ato i Gymru, ond mae'n gwerthfawrogi ei fywyd newydd.
"I allu byw mewn gwlad lle does dim rhyfel, mae'n rhywbeth mae nifer o bobl yn cymryd yn ganiataol. Mae'n braf bod mewn lle heddychlon a bod yn rhydd.
"Heb ryddid does dim hapusrwydd."
Mae arddangosfa Freedom 360, prosiect ar y cyd rhwng 大象传媒 Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru, i'w gweld yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, 7-30 Mehefin.
Hefyd o ddiddordeb: