Fan yn taro dau gerddwr tu allan i glwb nos yn y Rhondda

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Heddlu ar Heol Llewellyn, Pentre yn dilyn y digwyddiad

Mae dau berson wedi cael eu hanafu'n ddifrifol ar 么l cael eu taro gan fan y tu allan i glwb nos yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 01:35 fore Sul i Heol Llewellyn ym Mhentre.

Dywedodd yr heddlu fod Citroen Berlingo gwyn wedi gwrthdaro 芒 dau ddyn 25 oed y tu allan i glwb nos The Banc.

Cafodd dyn 30 oed ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ac achosi niwed difrifol drwy yrru'n beryglus.

Cafodd dau berson arall eu cludo i'r ysbyty hefyd, ond does dim gwybodaeth am eu cyflwr hyd yma.

Mae'r ffordd - a oedd ar gau am oriau - bellach wedi ailagor.

Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad.