拢4.75m tuag at sicrhau Archif Ddarlledu Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi grant o 拢4.75m ar gyfer creu Archif Ddarlledu Genedlaethol yn Aberystwyth.
Bydd yr archif - cynllun gwerth 拢9m - mewn canolfan yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd pryder ar un adeg na fyddai'r prosiect yn digwydd wedi i Lywodraeth Cymru ddatgan nad oeddynt yn fodlon cyfrannu 拢1m.
Ym mis Chwefror eleni, ar 么l newidiadau i gynllun busnes y Llyfrgell Genedlaethol, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau y byddai'r arian ar gael wedi'r cwbl.
Yn y pendraw fe fydd y ganolfan yn gartref i tua 240,000 awr o ddeunydd radio a theledu o Gymru sy'n olrhain bron i 100 mlynedd o ddarlledu.
Bydd y deunydd 大象传媒 yn cael ei ychwanegu at archif bresennol ITV Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Y bwriad yw cadw'r deunydd mewn storfa bwrpasol 1,000 metr sgw芒r, a bydd hefyd ar gael i'r cyhoedd mewn pedwar lleoliad arall ledled Cymru.
Dywedodd cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Richard Bellamy fod archif 大象传媒 Cymru yn cofnodi bron i ganrif o fywyd Cymru yn ei holl amrywiaeth.
"Ynghyd ag archifau ITV Wales sydd eisoes yn y Llyfrgell Genedlaethol, bydd y prosiect hynod bwysig hwn yn chwarae rhan allweddol wrth gasglu hanes darlledu ein cenedl a'i wneud yn hygyrch i'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed," meddai.
Mae prif elfennau'r prosiect yn cynnwys:
Dros 180,000 eitem sy'n cwmpasu'r Ail Ryfel Byd, llwyddiannau chwaraeon eiconig, trychineb Aberfan, ymgyrch datganoli a Streic y Glowyr;
Gweithgareddau mewn 10 ardal wahanol yn cynnwys dros 300 digwyddiad rhyngweithiol i hybu dysgu digidol ar gyfer pobl ifanc ac iechyd a lles ar gyfer pobl h欧n;
Darnau sy'n dilyn datblygiad yr iaith Gymraeg a chynnyrch awduron fel Dylan Thomas a Saunders Lewis, yn ogystal 芒 recordiadau o ddarllediadau Cymraeg cynnar;
Dros 1,500 o wirfoddolwyr yn helpu catalogio'r deunydd archif helaeth yn ogystal 芒 datblygu gweithgareddau cymunedol;
Sefydlu canolfannau clipiau symudol gyda'r nod o wneud y wybodaeth yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach.
Dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Pedr ap Llwyd mai'r "prosiect arloesol hwn fydd yn sicrhau y bydd archif 大象传媒 Cymru ar gael i'r cyhoedd".
Ychwanegodd cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Pa ffordd well i ddathlu pen-blwydd y 大象传媒 yn 100 oed yn 2022 nag agor y ffynhonnell anhygoel hon i ysgolion, colegau a chymunedau ledled Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018