Ateb y Galw: Y cyflwynydd a'r digrifwr Daniel Glyn

Y cyflwynydd a'r digrifwr Daniel Glyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar 么l iddo gael ei enwebu gan Gwenllian Jones yr wythnos diwethaf.

Daniel yw rheolwr y sianel deledu Cardiff TV, ac mae'n cyflwyno'r Sioe Frecwast ar 大象传媒 Radio Cymru 2 bob bore Sadwrn rhwng 7 a 9.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fi'n cofio cael row am siarad yn y gwasanaeth yn Ysgol Cogan pan o'n i'n 4 mlwydd oed, a gorfod eistedd o dan sedd y prifathro wrth iddo annerch y gwasanaeth, ac yntau yn rhechen yn dawel.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Lynda Carter (Wonder Woman).

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio cyfweld 芒 Gorky's Zygotic Mynci yn y 90au, ac o'dd e'n hollol amlwg o'r sgwrs mod i heb glywed dim un o'u caneuon. Tries i blagio'n ffordd trwy'r sgwrs, ond o'dd pawb yn gw'bod mod i heb wneud fy ngwaith cartref. Gofynnes iddynt ble oedden nhw'n ffitio fewn i'r rave scene yng Nghymru. Wps.

Disgrifiad o'r llun, Tybed wnaeth Gorky's Zygotic Mynci faddau i Daniel am beidio gwneud ei waith ymchwil?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Pryd bynnag dwi'n gwylio fy mhlant mewn cyngerdd yn yr ysgol. Dwi'n gweld lot o fam-gus a tad-cus yn y gynulleidfa, a ma'n 'neud fi'n drist i feddwl bod fy rhieni wedi marw lot rhy ifanc, ac felly heb gwrdd 芒 fy mhlant.

Dwi hefyd yn cr茂o pob nos Wener pan dwi'n setio'r larwm i fy neffro am hanner awr wedi Satan bore Sadwrn i wneud Sioe Frecwast Radio Cymru 2. Er mae'n hwyl unwaith dwi'n deffro!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Torri gwynt heb edifarhau. Os unrhywbeth, dwi'n prowd o'r peth. 'Sneb arall yn. Hefyd chamtreiglo.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Parc Bute, Caerdydd, oherwydd ma'n brydferth, yn wyrdd, ac yn agos i'r siopau.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd fy mharti pen-blwydd yn 50 yn ddiweddar yn eitha sbeshal; dal lan gyda hen ffrindiau a mynd dros ben llestri tan oriau m芒n y bore.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Arwrol, golygus, celwyddog.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Raiders of the Lost Ark.

Disgrifiad o'r llun, Raiders of the Lost Ark yw'r gyntaf yn y gyfres o ffilmiau sydd yn dilyn anturiaethau'r archeolegydd, Indiana Jones

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Fy ffrind Iorwerth Jones, bu farw dros 12 mlynedd yn 么l. Roedd Iorwerth yn medru 'neud i mi chwerthin nes o'n i'n s芒l. Dwi'n meddwl amdano'n ddyddiol, gyda gw锚n ar fy ngwyneb. Dyn gwirion a thalentog iawn. Colled mawr i bawb.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

O'n i mewn damwain car eitha' cas pan o'n i'n 7 mlwydd oed, a byth ers hynny sdim sense of smell gen i. (Yn Gymraeg rydym yn 'clywed arogl' sydd ddim yn neud sens heblaw o fewn cyd-destun rhechs.)

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ma' meddwl am y cwestiwn yma wedi codi'r felan arna'i - thanks a bunch Cymru Fyw! Os oes rhaid i mi ateb y cwestiwn, yna 'swn i'n hoffi eistedd o amgylch bwrdd y gegin (fy hoff le) yn chwarae Zombie Dice gyda fy nheulu a ffrindiau, a diolch iddynt yn gyson am eu cariad a chyfeillgarwch, tra'n gwrando ar bootleg o Orbital yn fyw ym Manceinion yn 2006. Os oes gen i'r egni, mi wna'i goginio spare ribs.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Chime gan Orbital. Dwi'n caru techno!

Disgrifiad o'r llun, Mae Daniel yn ffan o'r ddeuawd dawns electronig, Orbital

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Scallops i gychwyn, wedyn stecen, yna hufen i芒 gyda Maltesers wedi'u chwalu dros top.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Y frenhines, er mwyn ateb y cwestiwn tragwyddol parthed os yw hi'n mynd i'r t欧 bach ai peidio.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

J芒ms Thomas