Sali Mali: Cymeriad enwog Mary Vaughan Jones yn 50

Ffynhonnell y llun, GOMER

  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 大象传媒 Cymru

Mi fydd Cymru'n troi'n oren i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50 ddydd Mercher.

Bydd parti mawr yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin a digwyddiadau bach ledled Cymru.

Heno bydd y Senedd a'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael eu goleuo'n oren, tra bod plant ysgol yn gwisgo oren i nodi'r achlysur.

Cafodd llyfr gyntaf Sali Mali ei chyhoeddi yn 1969 gan yr awdur Mary Vaughan Jones, gyda darluniau gan Rowena Wyn Jones.

Eleni mae llyfrau newydd wedi'u cyhoeddi i nodi'r hanner canrif, tra bod Sali Mali wedi bod yn ymweld 芒 digwyddiadau mawr megis Eisteddfod yr Urdd.

Bu'r gyn-athrawes Mary Vaughan Jones yn gweithio fel darlithydd yng Ngholeg Normal, Bangor, pan aeth ati i greu Sali Mali a'i ffrindiau yn y 1960au.

Cafodd ei llyfr gyntaf ei gyhoeddi mis Mehefin 1969 fel rhan o gyfres Darllen Stori, a bu Mary Vaughan Jones hefyd yn gyfrifol am gymeriadau eraill fel Jac y Jwc, y Pry Bach Tew a Jaci Soch.

Ar y teledu mae Rhys Ifans wedi lleisio cyfres cart诺n Sali Mali, gyda Cerys Matthews yn canu'r arwyddgan.

Gwerthwyd y gyfres i dros 15 o wledydd gwahanol.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Sali Mali ei phortreadu gan yr actores Rebecca Harries yn y cyfresi Caffi Sali Mali (o 1994) a Pentre Bach (o 2004)

Ond yr actores Rebecca Harries ydy Sali Mali go-iawn i nifer fawr o blant bach, wedi iddi bortreadu'r cymeriad yn Caffi Sali Mali a Pentre Bach.

Bu farw Mary Vaughan Jones yn 1983 ond mae awduron eraill wedi parhau i ysgrifennu straeon Sali Mali.

Cyn diwedd y mis bydd cyfrol Straeon Nos Da Sali Mali yn ymddangos yn y siopau.

Gyda darluniau gan Simon Bradbury, mae 12 o straeon wedi'u hysgrifennu gan awduron sy'n cynnwys Tudur Owen, Mererid Hopwood a Bethan Gwanas.