Clwb newydd Bangor 1876 ym mhumed haen p锚l-droed Cymru

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Cefnogwyr CPD Bangor

Disgrifiad o'r llun, Cafodd enw a bathodyn y clwb newydd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf

Mae clwb newydd Bangor 1876 wedi cael gwybod y byddan nhw'n chwarae ym mhumed haen p锚l-droed Cymru y tymor nesaf.

Cafodd y clwb ei sefydlu gan Gymdeithas Cefnogwyr CPD Dinas Bangor yn sgil pryderon cynyddol am ddyfodol ariannol Clwb P锚l-droed Dinas Bangor.

Bydd Bangor 1876 yn chwarae yng Nghynghrair Gwynedd, gyda thimau fel Waunfawr a Llanystumdwy.

Bydd y clwb y chwarae eu gemau cartref ar gaeau Treborth, a dywedon nhw mewn datganiad nad oedd y cyfleusterau hynny'n cydymffurfio 芒'r safon sydd ei angen ar gyfer y pedair cynghrair uchaf.

Trafferthion CPD Dinas Bangor

Hefyd ddydd Mercher fe wnaeth Dinas Bangor osgoi gorchymyn dirwyn i ben yn yr Uchel Lys yn Llundain, a hynny am y trydydd tro yn y flwyddyn ddiwethaf.

Clywodd y llys bod yr achos yn erbyn y clwb wedi'i ollwng am fod ei ddyled ddiweddaraf - 拢2,856.36 - wedi cael ei dalu.

Cafodd Dinas Bangor eu gorfodi i chwarae yn ail haen p锚l-droed Cymru y tymor diwethaf wedi iddyn nhw fethu 芒 sicrhau trwydded lefel uchaf oherwydd trafferthion ariannol.

Yna ar ddiwedd y tymor fe wnaeth panel disgyblu Uwch Gynghrair Cymru dynnu 42 o bwyntiau oddi ar y clwb am dorri rheolau ariannol yn ymwneud 芒 chofrestru chwaraewyr.

Bydd ap锚l yn erbyn y penderfyniad hwnnw yn cael ei glywed ddydd Llun, ond pe bai'n cael ei gadarnhau fe fydd Dinas Bangor yn y drydedd haen y tymor nesaf.