Trafnidiaeth Cymru wedi talu 拢330,000 mewn iawndaliadau

Disgrifiad o'r llun, Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rhedeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau ers 17 Hydref

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi talu dros 拢330,000 mewn iawndaliadau i gwsmeriaid ers cymryd rheolaeth o reilffyrdd Cymru a'r Gororau.

Dywedodd y cwmni ei fod yn "gweithio'n galed" i wella'r gwasanaeth a'u bod wedi cyflawni "gwelliannau mawr".

Fe wnaeth cais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion 9 ddatgelu bod dros 17,000 o geisiadau am iawndal wedi'u gwneud i Drafnidiaeth Cymru.

Cafodd dros 16,000 o'r ceisiadau hynny eu cymeradwyo, gyda'r cwmni wedi talu 拢330,685.32 ers 17 Hydref y llynedd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru, gymrodd yr awenau gan Arriva, bod iawndal yn "addewid i gwsmeriaid".

拢800m ar drenau newydd

"Rydyn ni'n dechrau talu iawndal pan fo oedi o 15 munud - rhywbeth doedd Arriva ddim yn ei wneud - ac rydyn ni'n ei dalu'n llawer cynt," meddai'r cyfarwyddwr profiad cwsmeriaid, Colin Lea.

"Mae'r mwyafrif llethol o geisiadau'n cael eu talu o fewn 48 awr."

Fe wnaeth Trenau Arriva Cymru dalu 拢655,000 mewn iawndaliadau yn 2017/18.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi buddsoddi 拢800m mewn trenau newydd ac maen nhw'n dweud y bydd 95% o deithiau'n cael eu gwneud ar drenau newydd unwaith y byddan nhw wedi'u hadeiladu.

Disgrifiad o'r llun, Mae Colin Lea yn cydnabod bod "ffordd i fynd" o ran gwella'r gwasanaeth

Ond mae Mr Lea yn cydnabod bod diffyg llefydd ar rai llwybrau yn parhau'n broblem.

"Rydw i'n teithio o amgylch Cymru yn aml, gan gynnwys ar linellau'r Cymoedd yn y bore," meddai.

"Dros y mwyafrif o Gymru mae gennym ddigon o lefydd, ond mae heriau ar yr oriau brig allweddol yna i mewn i Gaerdydd.

"Rydyn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i wella pethau ac mae ffordd i fynd."