Ateb y Galw: Y cyfarwyddwr Daf Palfrey

Ffynhonnell y llun, Daf Palfrey

Y cyfarwyddwr Daf Palfrey sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar 么l iddo gael ei enwebu gan J芒ms Thomas yr wythnos diwethaf.

Mae Daf yn byw yn Toronto, Canada, ac yn ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu ffilmiau, rhaglenni teledu a fideos cerddoriaeth.

Roedd yn aelod o'r band ffync poblogaidd o Gaerdydd ddechrau'r 90au, sef Hanner Pei, sydd wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd unwaith eto yn ddiweddar. Mae band arall Daf, Dave Palmtree and the Palmtree Trio yn perfformio yn G诺yl Arall, Caernarfon eleni.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Pan o'n i tua dwy mlwydd oed yn chwarae tu allan i'n t欧 yn Groes Wen, nepell o Gaerffili, a Mam yn rhoi dillad ar y lein tra mod i'n arllwys tywod trwy dwll yn sedd fy nhractor bach. Diwrnod braf.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Lot o bobl (gan gynnwys Elvis!), ond yn bennaf Olivia Newton-John (yn Grease) a merch o'r enw Sian Davies yn yr ysgol gynradd (o'dd hi'n atgoffa fi o Olivia Newton-John).

Ffynhonnell y llun, Gijsbert Hanekroot

Disgrifiad o'r llun, Olivia Newton-John, yntau Sian Davies?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ges i ddamwain yn fy nhrowsus (rhif dau) ar goetsh llawn ffrindiau ysgol ar y ffordd n么l i Benybont-ar-Ogwr o ogledd Cymru ar 么l cystadlu yn yr Eisteddfod a gorfod cyfaddef mai fi oedd ffynhonnell y drewdod i bawb. O'n i tua 11 ar y pryd. Hunllefus.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wythnos d'wethaf tra'n gwylio ffilm o'r enw Eighth Grade. Roedd y darlun o'r prif gymeriad - sy'n 13 mlwydd oed - a'i thad yn gythryblus a thyner a doniol uffernol. Mae gen i ferch sy'n 13.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, lot. Diogi a choegni. Torri ar draws pobl pan maen nhw'n siarad achos dwi wedi ecseito. Gwylltio'n rhy gyflym. A mae'n debyg bod fi'n anadlu'n weird ac yn rhy uchel yn y bore yn 么l fy merch.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n teimlo atyniad cryf tuag at lan y m么r a dwi'n gwerthfawrogi ansawdd arallfydol gorllewin Cymru, neu Rhossili yn y G诺yr. Dwi wedi dechrau syrthio mewn cariad gyda mynyddoedd gogledd Cymru yn ddiweddar hefyd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ges i nifer o nosweithiau hudol a gwyllt yn chwarae mewn band, ac ambell noson arbennig yn ddiweddar, ond falle'r noson sy'n sefyll allan o fy ieuenctid yw chwarae gig yn Glynllifon yn yr amphitheatre cyn neidio i'r afon i ddawnsio a chwarae'n wyllt gyda thorf o bobl eraill. Complete abandon.

O'n i'n teimlo fel rhan o gymuned o fandiau Cymraeg ac yn dod i 'nabod pobl o bob cwr o'r wlad tra'n cael amser hollol mental.

Ffynhonnell y llun, Hanner Pei

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Daf (ail o'r chwith) lawer o hwyl gyda Hanner Pei, yn amlwg...

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cariadus. Diamynedd. Sensitif.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Anodd. Mae 'na gymaint o ffilmiau dwi'n caru, ond falle The Exorcist neu Casino. Dwi'n ffan anferth o ffilmiau Bunuel, Tarantino a Svankmajer hefyd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Carl Jung. Roedd ganddo ddealltwriaeth mor eang a hynod o ddwys o ddynol ryw.

Byswn i'n ei holi am ei wybodaeth helaeth o symbolaeth, ffilmiau, celf, materion ysbrydol a'i farn ar sefyllfa'r byd heddiw. Roedd ganddo dwincl direidus yn ei lygaid, tebyg i fy nhad-cu.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wedi bod i Golombia i gymryd rhan mewn seremon茂au shamanaidd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Canu'r git芒r yn uffernol o uchel, hel fy ffrindiau a theulu i gyd at ei gilydd am gig/gwledd/punch-up anferth. Llosgi pob eiddo. Syllu mewn i lygaid fy nghariad wrth i'r haul fachlud.

Ffynhonnell y llun, David Corio

Disgrifiad o'r llun, Mae James Brown hefyd yn adnabyddus am ganeuon fel 'Papa's got a brand new bag', 'Get up offa that thing' a 'Sex machine'. Mae ei ganeuon yn falm i'r galon, yn 么l Daf

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Ga'i ddewis cant?! Ar hyn o bryd James Brown - People, Get Up And Drive Your Funky Soul. Mae'n anodd peidio teimlo'n hyderus ac yn badass tra'n cerdded lawr y stryd a hon yn chwarae ar y clustffonau. Dylai'r g芒n fod ar bresgripsiwn ar yr NHS.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf: Salad cymysg o Crumbs yn Arc锚d Morgan yng Nghaerdydd

Prif gwrs: St锚c a chips steil Ffrengig

Pwdin: Mars Bar

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

George Benson, jest i wybod sut mae'n teimlo i chwarae'r git谩r fel dewin.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Hannah Daniel