Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diffyg lleiafrifoedd mewn swyddi cyhoeddus 'ddim yn ddigon da'
- Awdur, Gwyddno Dafydd
- Swydd, Uned Wleidyddol 大象传媒 Cymru
Dyw nifer y bobl o leiafrifoedd ethnig sy'n cael eu penodi mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru ddim yn ddigon da, yn 么l un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Cafodd llai na chwech o bobl o leiafrifoedd ethnig - allan o gyfanswm o 170 - eu penodi i gyrff cyhoeddus gan weinidogion dros 18 mis.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud fod y llywodraeth yn "edrych eto ar y broses penodi gyhoeddus".
Mae gweinidogion yn gwneud penodiadau cyhoeddus i fyrddau sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau cyhoeddus.
Er bod 5% o'r boblogaeth yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, maen nhw yn cael eu tangynrychioli ar gyrff cyhoeddus.
Mae cynllun mentora wedi'i sefydlu gan elusen EYST, sy'n ceisio mynd i'r afael 芒'r anghydbwysedd.
Mae'n cysylltu pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd gydag unigolion profiadol yn y sector gyhoeddus a phreifat - gan gynnwys ACau ac aelodau byrddau elusennau.
Chizi Phiri yw un o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y prosiect.
Mae hi eisiau gyrfa mewn gwleidyddiaeth, ond mae hi'n poeni am y ffordd mae menywod du yn cael eu trin mewn swyddi amlwg.
"Gallwch chi edrych ar Diane Abbott, a gweld beth mae'n ei wynebu, ac mae hynny'n codi ofn ar rywun.
"Dylai unrhyw un sydd am gael gyrfa mewn bywyd cyhoeddus, deimlo eu bod 芒'r grym i wneud hynny, er yr hiliaeth a'r gwahaniaethu ar sail rhyw ac ati...
"Felly mae cael rhaglen fentora fel hon, gyda phobl sydd 芒 phrofiad yn y maes yn gallu helpu."
'Angen gwneud rhywbeth'
Dywedodd Vaughan Gething, un o fentoriaid cynllun EYST: "Rwyf eisoes wedi dechrau adolygiad tebyg yn yr adran iechyd, ond rwy'n gwybod bod y gweinidog cydraddoldeb yn arwain gr诺p ar waith ehangach ar draws penodiadau cyhoeddus."
"Os ydych chi'n dweud fod y sefyllfa yn ddigon da - ac mae'n amlwg nad ydy hi - fyddwch chi byth yn datrys y broblem.
"Felly mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ac yn cydnabod bod angen gwneud rhywbeth, ac rydym yn edrych ar sut allwn ni wneud hynny."
Mae Rocio Cifuentes yn gyfarwyddwr EYST: "Er mwyn i unrhyw gr诺p fod yn un effeithiol mae angen iddo adlewyrchu'n gywir y cymunedau mae'n ei wasanaethu.
"Mae'r diffyg cynrychiolaeth ar hyn o bryd yn golygu nad yw'r holl dalent, ac amrywiaeth o brofiadau, yn rhan o'r penodiadau cyhoeddus a'r byrddau."
Fe fyddai rhai o aelodau cynllun mentora EYST yn hoffi gweld yr ystadegau'n newid yn gyflym.
Dywedodd Tafsila Khan: "Rydw i eisiau gwneud bywyd pawb yn well a theimlo fy mod i yn fwy o ran yn fy nghymuned, ac yn teimlo'n fwy cyfartal mewn cymdeithas."