Cadarnhau isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ar 1 Awst
- Cyhoeddwyd
Bydd isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cael ei gynnal ar 1 Awst.
Fe gychwynnodd prif chwip y Ceidwadwyr, Julian Smith y broses yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Iau.
Daeth cadarnhad yn ddiweddarach yn y dydd y byddai'r isetholiad yn digwydd ymhen pum wythnos.
Cafodd ei alw wedi i dros 19% o'r etholaeth arwyddo deiseb i ddiswyddo'r Aelod Seneddol Ceidwadol, Chris Davies.
Ym mis Mawrth fe wnaeth Mr Davies, 51, bledio'n euog i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.
Bu'n destun deiseb galw n么l yn ei etholaeth, oedd yn golygu y byddai isetholiad yn cael ei gynnal pe bai 10% o'r etholaeth - 5,303 o bleidleiswyr - yn ei harwyddo.
Mewn cyfarfod nos Sul, fe benderfynodd y Blaid Geidwadol ddewis Mr Davies fel yr ymgeisydd ar eu rhan.
Mae disgwyl i Jane Dodds sefyll ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, Tom Davies dros y Blaid Lafur, ac mae disgwyl ymgeisydd ar ran Plaid Brexit hefyd.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei fod yn trafod gyda phart茂on eraill sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd cyn penderfynu a fyddan nhw'n enwebu ymgeisydd.