大象传媒

Gall cyffur newydd i drin meigryn 'newid bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Gwyneth LewisFfynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Gwyneth Lewis ei henwi'n fardd cenedlaethol Cymru yn 2005

Gall cyffur newydd i drin meigryn wneud "gwahaniaeth enfawr" i fywydau pobl pe bai ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd, yn 么l cyn-fardd cenedlaethol Cymru.

Yn 么l Gwyneth Lewis, 59, roedd hi'n brysur "rhedeg allan o opsiynau" ar gyfer triniaethau posib.

Mae Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn ystyried cymeradwyo trwydded i bigiadau newydd o'r enw Aimovig ar hyn o bryd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae cynhyrchwyr Aimoving yn cydweithio gyda NICE ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld beth fydd y penderfyniad terfynol."

Mae Aimovig yn enw brand ar gyfer cyffur Erenumab, sy'n bigiad sy'n cael ei gymryd yn fisol er mwyn lleihau effeithiau meigryn cronig.

Dim ond ar bresgripsiwn preifat y mae modd i bobl yng Nghymru dderbyn y cyffur ar hyn o bryd, a hynny am gost o tua 拢385.

Cafodd y cyffur ei wrthod gan Wasanaeth Iechyd Lloegr ym mis Ionawr ar sail y gost, ond cafodd ei gymeradwyo yn Yr Alban yn ddiweddar.

Mae Gr诺p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru - sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion iechyd - yn dweud y byddan nhw'n ystyried ceisiadau cyffuriau sydd wedi cael eu gwrthod gan NICE yn y gorffennol am resymau ariannol.

Beth yw meigryn cronig?

Mae'n cael ei ddiffinio fel mwy na 15 diwrnod o boen pen bob mis dros gyfnod o dri mis - lle bod o leiaf wyth o'r rhain yn feigrynaidd.

Mae'n effeithio tua 2% o boblogaeth y byd.

Nid oes un peth penodol yn ei achosi, ond mae rhai pobl yn cael eu heffeithio gan bethau fel caffein, goleuadau llachar, hormonau neu ddiffyg bwyd neu gwsg.

Dywedodd Ms Lewis, sy'n byw gyda'r cyflwr, bod y cyffur newydd yn "edrych yn addawol".

Ar 么l treialu wyth math o driniaeth, mae enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn credu y gallai'r pigiadau newydd wneud y gwahaniaeth "rhwng cael bywyd a chael eich gadael i bydru".

"Dydw i methu darllen, methu 'sgwennu ac mae'n andros o boenus. Dwi'n teimlo'n gloff ac yn anabl," meddai.

"Mae hi fel bod cyllell boeth yn cael ei wthio drwy fy llygaid, lawr drwy fy nhrwyn ac allan drwy gefn fy mhen."

Ychwanegodd ei bod hi'n teimlo nad oes gan unrhyw un yng Nghymru'r arbenigedd sydd ei angen i drin ei chyflwr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen gwneud mwy o ymchwil yn y maes, yn 么l Anna Maclean

Mae'r cyn-feddyg teulu sy'n dioddef o feigryn cronig, Anna Maclean, wedi bod yn cymryd Aimovig fel rhan o dreialon yn Ysbyty King's College, Llundain ers mis Rhagfyr 2018.

Dywedodd hi ei bod hi wedi gweld "gwelliant sylweddol" dros y misoedd diwethaf.

Fe wnaeth y meddyg o Gaerdydd golli ei swydd yn 2014 o ganlyniad i'r cyflwr, a bu'n rhaid iddi fynd i Lundain am driniaeth.

'Gwahaniaeth gwirioneddol'

Nid oes digon o arbenigedd nac ymwybyddiaeth am y cyflwr yng Nghymru, yn 么l Ms Maclean, ac mae hi hefyd yn galw am fwy o ymchwil i gael ei wneud yn y maes.

"Mae pobl ar eu gliniau. Byddai cael y cyffuriau yma yng Nghymru yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gymaint o bobl," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwbl ymroddedig i wella mynediad at wasanaethau" ar gyfer cleifion.

"Mae ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn nodi sut all pobl dderbyn gofal sydyn ac effeithiol drwy ysbytai neu yn y gymuned," meddai.

"Mae'r cynllun hefyd yn canolbwyntio ar helpu pobl sy'n byw 芒'r cyflwr, codi ymwybyddiaeth a gwella'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael."