Arestio dau wedi protest amgylcheddol y tu allan i fanc

Disgrifiad o'r llun, Roedd yn ymddangos bod rhai aelodau o staff yn yr adeilad ar y pryd.

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad 芒 phrotest y tu allan i fanc yng Nghaerfyrddin.

Yn 么l Heddlu Dyfed Powys fe gawson nhw eu galw am 09:35 dydd Sadwrn ar 么l derbyn adroddiad fod protestwyr y tu allan i Fanc Barclays ar Sgw芒r y Guildhall yn y dref.

Dywedodd un o ohebwyr 大象传媒 Cymru bod rhai wedi gludo eu hunain i Fanc Barclays ar Sgw芒r y Guildhall bod gan eraill o'r protestwyr gloeon beic o amgylch ei gyddfau.

Yn 么l llefarydd ar ran y gr诺p ymgyrchu Extintion Rebellion roedd yr unigolion yn protestio yn erbyn buddsoddiadau Barclays mewn tanwydd ffosiledig.

Mae'r ddau a gafodd eu harestio yn parhau yn y ddalfa, meddai'r heddlu.

Cafwyd protest hefyd y tu allan i gangen y banc yn Aberystwyth.

Ffynhonnell y llun, Ceredig Davies

Disgrifiad o'r llun, Roedd y brotest ar Sgw芒r Owain Glyndwr yng nghanol Aberystwyth yn un dawel