Ysgol yn Sir Benfro yw'r olaf yng Nghymru i gael band eang
- Cyhoeddwyd
Mae'r unig ysgol yng Nghymru a oedd yn dal i aros am fand eang bellach yn edrych ymlaen at gysylltiad cyflym 芒'r we.
Yn 么l disgyblion ac athrawon Ysgol Llanychllwydog yng Nghwm Gwaun yn Sir Benfro mae wedi bod wedi bod yn gyfnod rhwystredig wrth iddynt geisio cyflawni dyletswyddau.
Maen nhw nawr yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r ysgol ym mis Medi o wybod na fyddant yn colli'r we yn barhaus.
Dywedodd Amanda Lawrence, pennaeth dros yr ysgol: "Ambell waith, dwi'n gallu dod fan hyn a dyw'r we ddim yn gweithio, ac felly'r unig ffordd o ddatrys y broblem yw mynd n么l i Ysgol Casmael [yr un arall dan ei gofal] i hela e-bost i'r cyngor sir i ddweud nad yw'r we yn gweithio.
"Mae hynny'n mynd ag arian ac amser wrth gwrs ac mae dogfennau 'da fi yn gyson sydd angen eu hanfon mewn yn electronig - mae angen 'neud y gofrestr yn ddyddiol yn electronig.
'Cyflymaf yn Ewrop'
Ychwanegodd bod dyfodiad y cyswllt band eang yn "newyddion da o lawenydd mawr".
"Erbyn mis Medi bydd pethe'n rhedeg yn llyfn a bydd y staff a'r plant yn hapus."
Gyda 拢13.8m wedi ei fuddsoddi yn benodol mewn ysgolion, mae band eang wedi bod yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Ond cynllun 拢200m gan Adran Ddigidol Llywodraeth y DU yw'r rhaglen Cyswllt Gigabit Gwledig, sydd wedi cysylltu Ysgol Llanychllwydog, gan gynnig band eang ffibr cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig a diarffordd.
Yn 么l y gweinidog Margot James A.S., mae'r prosiect wedi ei gyflawni yn sgil cydweithio rhwng y ddwy lywodraeth. Ychwanegodd y bydd cyfran o'r 拢200m yn cael ei ddefnyddio i ddarparu ffibr llawn i adeiladau cyhoeddus fel ysbytai a chartrefi mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd pennaeth cyfathrebu Open Reach yng Nghymru, Eurig Thomas: "Bydd y cyfarpar newydd yn gwneud newid aruthrol - bydd yr ysgol bellach yn gallu lawr lwytho cerddoriaeth, ffrydio deunydd, a byddan nhw'n gallu mwynhau ffordd newydd o ddysgu.
"Mae'r band eang yma gyda'r cyflymaf yn Ewrop a bydd cartrefi yn yr ardal hefyd yn gallu elwa'n aruthrol o'r datblygiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2018
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018