Cadarnhad fod stryd fwyaf serth y byd yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae stryd yng Ngwynedd wedi cael ei chydnabod fel y stryd fwyaf serth yn y byd.
Daw'r cadarnhad gan Recordiau Byd Guinness fod Ffordd Pen Llech yn Harlech, sydd 芒 graddiant o 1 mewn 2.67 (neu 37.45%) yn y man mwyaf serth.
Mae'r stryd, sy'n cysylltu gwaelod y dref gyda'r castell, wedi cymryd y teitl oddi wrth Stryd Baldwin yn Dunedin, Seland Newydd sydd 芒 graddiant o 35% yn y man mwyaf serth.
Gwyn Headley a Sarah Badham, sy'n cyd-redeg gr诺p Cymunedol Harlech ar Facebook, oedd yn gyfrifol am enwebu'r stryd.
Dywedodd Mr Headley: "Rwy'n teimlo rhyddhad ac hapusrwydd. Roedd Recordiau Byd Guinness yn hynod fanwl o ran y gofynion.
"Rwy'n teimlo pechod dros Stryd Baldwin yn Seland Newydd - ond mae serth yn golygu serth."
Dywedodd Craig Glenday, Pennaeth Golygyddol Recordiau Byd Guinness: "Mae'r gymuned leol yn Harlech wedi dangos ymroddiad o ran eu hymgais i sicrhau'r teitl i Ffordd Pen Llech.
"Dwi'n falch o weld fod y canlyniad wedi dod 芒 hapusrwydd i'r cymdogion.
"Dwi'n gobeithio y gwneith Harlech fwynhau'r dathliadau a bod y teitl yn dod 芒 nifer o bobl i'r dref hyfryd i brofi'r stryd fwyaf serth y byd iddyn nhw eu hunain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019