大象传媒

'Lleihau loes' drwy beidio saethu gwartheg TB ar y fferm

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i alwadau am fwy o gefnogaeth emosiynol i ffermwyr sy'n gweld eu gwartheg yn cael eu saethu o'u blaenau ar y fferm o ganlyniad i TB.

Mae anifeiliaid yn cael eu saethu ar leoliad os ydyn nhw ar fin rhoi genedigaeth neu'n rhy s芒l i deithio i ladd-dy.

Yn 么l y ffigurau diweddaraf, mae cynnydd o 19% wedi bod yn nifer y gwartheg gafodd eu lladd yng Nghymru o ganlyniad i'r dici芒u rhwng Ebrill 2018 a 2019 o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol, er bod achosion newydd o'r clefyd wedi gostwng 7%.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd bellach wedi dweud y byddan nhw'n talu am gynllun fydd yn galluogi ffermwyr i ofyn am bigiad marwol yn hytrach na saethu anifail sydd wedi ei heintio.

'Anodd stumogi'

Yn 么l aelod blaenllaw o'r diwydiant llaeth, mae TB yn cael effaith "hollol erchyll" ar gymunedau gwledig.

Mae Abi Reader o Wenfo ym Mro Morgannwg yn is-gadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru ac yn sylfaenydd cynllun sy'n mynd ag anifeiliaid fferm i ysgolion i addysgu disgyblion am gynhyrchu bwyd.

Mae ganddi 200 o wartheg ac yn cyflenwi llaeth i un o'r archfarchnadoedd mawr, ond yn ddiweddar derbyniodd y newyddion bod 10 o'i hanifeiliaid wedi profi'n bositif am TB.

Roedd tair buwch ar fin lloia ac felly roedd yn rhaid eu saethu ar y buarth o'i blaen gan ei fod yn anaddas iddyn nhw gael eu cludo i ladd-dy.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Abi Reader ei bod yn teimlo fel ei bod wedi "gadael y gwartheg i lawr"

"Dwi'n gallu cofio ei fod wedi dal y gwn at ben y fuwch ac mi estynnodd allan i arogli ei ddiwedd," meddai Ms Reader.

"Mi daniodd y gwn ac mi syrthiodd i'r llawr. I weld hyn mor agos, mae'n anodd iawn stumogi mewn gwirionedd ac mae'n gwneud i chi deimlo eich bod chi wedi gadael y gwartheg i lawr.

"Rwy'n gwybod am ffermwyr sydd wedi colli cannoedd o wartheg a gweld cannoedd yn cael eu saethu - ac i'w gweld yn cael eu saethu dro ar 么l tro ac i wybod bod y clefyd yn mynd i barhau i ddod 'n么l yn ddinistriol," ychwanegodd.

Er bod ffermwyr yn cael eu digolledu am wartheg sy'n cael eu lladd, mae'n aml yn golygu - fel yn achos Ms Reader - bod llinach sy'n cael ei fagu dros ddegawdau neu genedlaethau yn dod i ben.

Disgrifiad,

Mae gweld ei wartheg yn cael ei saethu yn brofiad annymunol i Jeff Evans

Mae Jeff Evans yn ffermio ger Casblaidd yn Sir Benfro ac wedi gorfod byw gyda TB ar ei fferm ers blynyddoedd. Mae'n dweud bod y profiad o weld y saethu'n peri gofid mawr.

"Mae'r da bwti wythnos off lloia 'ma, maen nhw wedi llenwi 'da llaeth, ac mae rhaid ni saethu nhw cyn maen nhw'n d诺ad 芒 llo," meddai.

"Chi'n gweld y fuwch yn marw, a chi'n gweld y llo yn marw ar 么l i'r fuwch gael ei saethu. 'Smo hwna'n rhywbeth dylen ni fod yn gorfod delio 'da fel ffermydd.

"'Sneb isie ffarmo fel 'na - ry'n ni isie gweld popeth yn mynd off y ffarm yn fyw a rhoi amser da iddyn nhw pan maen nhw 'ma, ac i weld rhywbeth fel 'na yn cael ei wneud i ni achos TB, i rai ffermydd mae'n ormod iddyn nhw."

Mae nifer y gwartheg gafodd eu lladd yng Nghymru o ganlyniad i TB wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda Llywodraeth Cymru'n mynnu ei bod yn fwy gwyliadwrus wrth iddi geisio cael gwared ar y clefyd.

Ers 2009 mae'n dweud bod gostyngiad o 40% wedi bod mewn achosion newydd.

Ond yn y 12 mis hyd at fis Ebrill 2019 cafodd 11,977 o wartheg eu lladd oherwydd TB, sy'n gynnydd o 19% ar y 12 mis blaenorol pan gafodd 10,088 eu lladd.

Mae ffermwyr hefyd yn wynebu cyfyngiadau llym ar symud, prynu neu werthu anifeiliaid, gyda llai o laeth neu gig eidion ar gael i'w werthu. Mae hyn yn eu taro'n ariannol.

"Ma' dau linyn really i'r dolur calon," meddai Linda Jones o'r elusen amaeth RABI.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Linda Jones yn gweithio gyda RABI, elusen sy'n helpu ffermwyr

"Mae'r un cynta' yn codi allan o'r elfen ariannol... y gost ychwanegol sy'n codi o gadw anifeiliaid maen nhw'n methu eu gwerthu, a hefyd y golled i incwm y ffarm.

"Ac ar ben hynny wedyn mae'n emosiynol iawn i weld eich anifeiliaid chi yn cael eu cario bant ar lori neu yn waeth byth yn cael eu saethu o'ch blaen chi ar y ffarm.

"Dwi ddim yn credu y gallwch chi ddeall faint o brofiad diflas yw e tan eich bod chi wedi gorfod ymdopi 芒'r sefyllfa eich hunan."

Caniat谩u chwistrelliad

Mae elusennau amaeth hefyd wedi mynegi pryder am y mater, gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn galw ar y llywodraeth i greu tasglu i fynd i'r afael 芒 TB.

Yn y cyfamser, mae gwyddonwyr yng Nghanolfan Ragoriaeth mewn TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gwneud darganfyddiad o bwys yn y frwydr yn erbyn y clefyd.

Maen nhw wedi datblygu prawf a allai - am y tro cyntaf - ddweud y gwahaniaeth rhwng anifail sydd wedi'i frechu ac un sydd 芒'r haint.

Gallai olygu bod gwartheg yn cael cynnig brechlyn yn erbyn TB yn y dyfodol, er y bydd sawl blwyddyn cyn bod y prawf yn barod i'w ddefnyddio.

"Trwy gyflwyno mwy o dystiolaeth a gwyddoniaeth - y gobaith yw y gallwn ddileu'r broblem," meddai'r Athro Glyn Hewinson sy'n arwain y ganolfan.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n talu am gynllun newydd i alluogi ffermwyr i ofyn am gael difa gwartheg gyda chwistrelliad yn hytrach na gwn yn ddiweddarach eleni.

"Ry'n ni wedi gwrando ac yn cydnabod bod gorfod saethu gwartheg ar y fferm yn gallu achosi gwewyr eithriadol," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd bod cymorth hefyd ar gael gan sefydliadau fel Farm Communities Network a Thir Dewi.

Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod "diffyg gweithredu Llywodraethau Llafur Cymru a'u hanallu i ddileu'r clefyd" ar fai.

Ychwanegodd Ll欧r Gruffydd o Blaid Cymru bod "teimlad o anobaith" nad oedd y llywodraeth "yn gwneud popeth o fewn ei phwerau i helpu i fynd i'r afael 芒 TB".