Troseddu gwledig yn costio mwy na 拢2m yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Beiciau cwad, offer a da byw sy'n cael eu targedu gan ladron yn bennaf

Fe gostiodd troseddu gwledig mwy na 拢2m yng Nghymru yn 2018 ond mae'r ffigwr yn is na'r flwyddyn flaenorol ac yn is ar gyfartaledd na Lloegr.

Mewn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun gan gwmni yswiriant NFU Mutual, nodir bod cost troseddu gwledig yn 拢2,366,000 yng Nghymru yn 2018 - yn 2017 roedd y gost yn 拢2,548,000, 7.1% yn uwch.

Yr hyn y mae lladron yn ei dargedu'n bennaf yng Nghymru yw beiciau cwad, offer a da byw.

Dywedodd Aled Griffiths, asiant NFU Mutual yn Y Drenewydd: "Mae'n galonogol bod troseddu gwledig wedi gostwng yng Nghymru - mae hynny yn ganlyniad gwaith caled gan ffermwyr, pobl wledig a heddlu gwledig ond mae cefn gwlad yn wynebu her anferth gan droseddwyr cyfundrefnol ac mae'n hynod bwysig bod plismyn, ffermwyr a phobl fusnes yn wyliadwrus.

"Un o'r pethau pryderus yn adroddiad eleni yw bod ofni bod yn darged trosedd yn newid bywyd cefn gwlad - mae pobl cefn gwlad yn teimlo eu bod o dan warchae."

'Ofn mynd i'r sioe leol'

Mae'r adroddiad yn nodi bod pobl yn gynyddol ofni y byddan nhw'n cael eu targedu eto ar 么l cael eu targedu unwaith.

Ychwanegodd Mr Griffiths: "Mae cael mwy nag un ymosodiad yn achosi pryder go iawn ymhlith ffermwyr - yn enwedig rhai sy'n gweithio ar ben eu hunain drwy'r dydd.

"Mae rhai yn poeni gymaint fel nad ydynt yn gadael y fferm i fynd i sioeau lleol.

"Ein cyngor i bobl sy'n byw a gweithio yng nghefn gwlad yw gwerthuso y mesurau diogelwch presennol, byddwch yn wyliadwrus a soniwch am unrhyw weithgaredd amheus wrth yr heddlu lleol."

Dywedodd Aled Griffiths hefyd mai'r newyddion da yw bod technoleg atal lladron yn datblygu'n gyflym a bod y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn fodd mewn rhai ardaloedd i atal troseddu a lleihau unigrwydd.