大象传媒

Tywydd yn golygu 'costau ychwanegol' i Eisteddfod Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
maes dydd sadwrn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda'r glaw yn parhau roedd llai o bobl ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst ddydd Sadwrn

Mae prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cydnabod y bydd yr 诺yl yn wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i'r newidiadau sydd wedi'u gwneud dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd Betsan Moses na fydd y ffigwr terfynol yn amlwg am ychydig eto, ond bod gwaith i liniaru effaith y tywydd wedi gadael ei farc yn ariannol.

Fe gyhoeddodd yr Eisteddfod ddydd Gwener y byddai lleoliad ieuenctid Maes B yn cau deuddydd yn gynnar oherwydd y rhagolygon, gan ddweud y byddai pobl yn cael eu had-dalu.

Mae trefnwyr bellach wedi gorfod symud meysydd parcio a threfnu mwy o fysus gwennol oherwydd cyflwr rhai o'r caeau gafodd eu defnydio ddechrau'r wythnos.

'Dim pris ar ddiogelwch'

Ychwanegodd Betsan Moses bod yr Eisteddfod hefyd wedi gorfod gwario mwy ar ddiogelwch, a bod hynny wedi cyfrannu at y costau ychwanegol.

"Mi fydd 'na effeithiau ariannol," meddai'r prif weithredwr, a hynny ar ddiwedd ei Phrifwyl gyntaf yn y r么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yn rhaid blaenoriaethu diogelwch pobl, er gwaethaf y gost bosib, medd Betsan Moses

"Mi fu rhaid i ni ohirio Maes B, ac wrth gwrs mae hynny'n golled.

"Ond diogelwch pobl sydd bwysicaf, ac ry'n ni wedi gallu gwireddu g诺yl er gwaethaf y tywydd 'ma, a dyna sy'n bwysig.

"Mae pobl wedi cael profiadau anhygoel, ac ry'n ni wedi gallu gwireddu'r 诺yl yn ei chyfanrwydd.

"Mae'n rhaid wrth newidiadau - does 'na ddim pris ar ddiogelwch pobl."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cyflwr rhai o'r meysydd parcio wedi dirywio'n sylweddol erbyn diwedd yr wythnos

Bu'n rhaid parhau i newid trefniadau ddydd Sadwrn, gyda gig Dafydd Iwan gyda'r nos yn symud o Lwyfan y Maes i'r Pafiliwn, a pherfformiadau yn y T欧 Gwerin a Chaffi Maes B hefyd yn cael eu symud i adeiladau mwy cadarn.

Roedd yr Eisteddfod eisoes wedi gorfod symud safle'r maes ychydig yn bellach o Lanrwst wedi i lifogydd yn y gwanwyn achosi difrod ar y safle gwreiddiol.

Dywedodd Ms Moses y byddai'n rhaid aros i weld effaith ariannol yr holl fesurau ychwanegol gafodd eu rhoi yn eu lle.

"Mae 'na gost ychwanegol o wireddu rhai pethau, ond mi fyddwn ni'n edrych dros yr wythnosau nesaf ac mi fydd 'na ffigwr yn dod i'r fei," meddai.