Hanner canrif ers 'ergyd drom' cau Chwarel Dinorwig

Mae'n union hanner can mlynedd ers cau un o chwareli llechi mwya'r byd am y tro olaf.

Yn ei anterth roedd Chwarel Dinorwig, ar y llethrau uwchben pentref Llanberis, yn cyflogi dros 3,000 o weithwyr, ac yn rhan annatod o'r gymdeithas.

Roedd yn ergyd drom i'r ardal pan ddaeth y cyfan i ben yno ar 22 Awst, 1969.

Gwerthwyd y chwarel am lai nag 拢20,000, ac mae'r gweithdai erbyn hyn yn gartref i'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol ers 1972.

Disgrifiad o'r fideo, Cofio Chwarel Dinorwig 50 mlynedd ers ei gau

Doedd pethau heb fod yn dda yn y chwarel am rai blynyddoedd cyn iddo gau am sawl rheswm:

  • Doedd dim cymaint o alw am lechi ym Mhrydain;
  • Roedd llechi Cymru'n ddrud o'u cymharu 芒 theils a llechi o dramor;
  • Roedd y llechfaen oedd yn hawdd ei gyrraedd wedi ei gloddio i gyd erbyn y 1960au, ac roedd rhaid gwario i ddatblygu ymhellach; ac
  • Erbyn y 1960au roedd y chwarel yn dibynnu'n llwyr ar archebion o Ffrainc, a daeth y rheiny i ben yn 1969.
Disgrifiad o'r llun, Cafodd y chwarel ddylanwad sylweddol ar y gymuned leol, medd Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol

"Yn ei hoes aur roedd hi'n cyflogi 3,000 o ddynion, ac mi oedd bron pob bachgen yn yr ardal yma yn mynd i weithio yn Chwarel Dinorwig rhwng 1840 a 1930," meddai Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa Lechi.

"Erbyn iddi gau roedd 350 yn gweithio yno, ond roedd y ffaith bod y chwarel fwyaf yn y byd, ar un adeg, yn cau, yn rhywbeth gafodd ddylanwad sylweddol ar y gymdeithas, a oedd hyd at hynny wedi cymryd yn ganiataol y byddai'r chwarel a'i chyflogaeth a'i gwerthoedd a'i diwylliant, yn para am byth."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Arnold Lloyd Jones ond yn 15 oed wrth ddechrau gweithio yn y chwarel

Aeth Arnold Lloyd Jones i weithio yno yn 15 oed, ac fel arlunydd uchel ei barch, mae'n dal i fynd am dro yno bob hyn a hyn.

Ond mae o hefyd yn cofio bod ochr dywyll i'r diwydiant, gan gynnwys afiechyd yr ysgyfaint - silicosis - oedd yn cael ei achosi gan lwch y llechi, a gwelodd ei effaith ar iechyd nifer o'i gydweithwyr.

"Mae'r oes wedi newid yn ofnadwy yn y 30 mlynedd dwytha ac mae twristiaeth wedi cymryd drosodd yno rwan," meddai.

"Ond o leiaf mae'r gwaith yn lanach rwan."

Disgrifiad o'r llun, Seindorf Arian Deiniolen yn ymarfer

Seindorf Arian Deiniolen oedd band y chwarel, ac mae'n dal i fynd o nerth i nerth 180 o flynyddoedd ers ei sefydlu.

Mae Dafydd Evans yn aelod ers degawdau.

"Mae gynnon ni ferch leol [Lois Eifion], sydd wedi codi o'r band iau i'r band llawn, a r诺an mae hi'n arwain y band ac rydan ni wedi cyrraedd y safon gorau posib.

"Dwi'n aelod ers 1957 a'r band presennol ydi'r gorau dwi'n ei gofio yma erioed."