Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pum munud gyda'r actor Jac Yarrow
Mae Jac Yarrow o Gaerdydd yn chwarae rhan Joseph yn sioe Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoatyn y West End ar hyn o bryd.
Dyw'r actor ifanc heb raddio eto ond mae wedi llwyddo i gael un o'r rhannau mwya' eiconig ym myd theatr gyda rhai adolygwyr yn ei ddisgrifio fel 'y Joseph gorau erioed'.
Sut lwyddoch chi i gael y r么l?
O'n i yn ysgol ddrama ArtsEd yn Llundain a chwaraeais y brif ran yn un o'n sioeau cerdd. Daeth cynhyrchydd Joseph i weld y sioe a meddwl y byddwn i'n gwneud Joseph da.
Felly gwnes i dri neu bedwar clyweliad dwys, yna cael gwybod bythefnos yn ddiweddarach ar fy mhen-blwydd yn 21 oed fy mod i wedi cael y rhan.
Sut aeth y noson gyntaf ym mis Mehefin?
Brawychus! Dw i'n ymddangos am y tro cyntaf yn y sioe drwy ddod fyny o dan y llwyfan ar lifft. Felly o'n i'n gallu clywed y gynulleidfa tra'n aros i ddod i fyny, a oedd yn frawychus.
Perfformio ar lwyfan y Palladium yw'r anrhydedd fwyaf i unrhyw berfformiwr, mae'n un o'r llwyfannau enwocaf yn y byd. Unwaith i'r braw cychwynnol fynd, roedd yn anhygoel. Roedd pawb yn nerfus i weld sut beth fyddai'r fersiwn newydd hon o Joseph ond roedd pawb wrth eu boddau.
Ar y noson gyntaf safodd y dorf i gymeradwyo ar 么l i Jac ganu 'Close every door'. Sut deimlad?
Dwi'n gorffen y g芒n yn edrych i fyny ac yn methu 芒 gweld y gynulleidfa. Aeth y gymeradwyaeth ymlaen am amser mor hir nes i mi edrych i lawr a gwelais bawb ar eu traed, roedd mor swreal. Mae'n un o'r eiliadau hynny nad ydw i byth yn mynd i'w anghofio.
A sut mae'r gefnogaeth o Gymru wedi bod?
Dw i'n aml yn cael pobl wrth ddrws y llwyfan o Gymru, mae grwpiau wedi dod i fyny i'm cefnogi ac mae'n wych i glywed yr acen Gymraeg.
Yng Nghymru rydym yn tyfu i fyny yn canu yn yr ysgol ac yn canu mewn corau ac yn gwneud eisteddfodau felly mae canu a pherfformio yn rhan o'n diwylliant ni.
O'n i'n canu yn yr ysgol ac mewn cynyrchiadau amatur. Cefais lawer o gyfleoedd - mae Cymru yn le gwych i dyfu i fyny os ydych yn hoffi'r celfyddydau. O'n i mewn ysgol lwyfan yng Nghaerdydd bob dydd Sadwrn o'r enw The Stage Center felly gwnes i sioeau fel Les Mis, Fame a Grease.
Sut brofiad oedd gwisgo'r g么t liwgar a gweithio gyda Jason Donovan (actor sy' wedi chwarae rhan Joseph yn y gorffennol)?
Roedd yn anhygoel. Y tro cyntaf i mi wisgo'r g么t liwgar oedd pan wnaethon ni berfformio ar Britain's Got Talent ychydig fisoedd yn 么l. Mae'n anrhydedd ac yn teimlo fel bod yn rhan o glwb unigryw iawn. I berfformiwr theatr gerdd, dyma'r pinacl.
Pan glywais fod Jason Donovan yn gwneud y sioe roedd yn frawychus ond pan wnaethon ni gyfarfod, ef oedd y boi neisaf. Mae wedi bod mor gefnogol. Y tro cyntaf i mi ganu Any Dream Will Do o'i flaen, ef oedd y person cyntaf i ganmol. Rydyn ni wedi dod yn ffrindiau mawr.
Mae'r cynhyrchiad hwn wedi newid yn eithaf dramatig o gynhyrchiad gwreiddiol Andrew Lloyd Webber a Tim Rice. Daeth Andrew i mewn i'n gwylio ac roedd yn ddychrynllyd, yn perfformio reit o'i flaen.
Roedd Andrew wrth ei fodd fod y cynhyrchiad newydd mor gyfoes. Roedd yn anhygoel gweld Andrew yn cyffroi am gynhyrchiad y mae wedi bod yn rhan ohono ers cymaint o flynyddoedd.
A be' nesaf?
Ar 么l i Joseph orffen dw i'n gwneud panto yn Birmingham ac yna mae gen i rai pethau cyffrous ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dw i'n awyddus i chwarae mwy o rannau yn y West End ac hefyd gwneud gwaith ffilm a theledu.
Hefyd o ddiddordeb: