Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llygredd Afon Cefni yn lladd 100 o bysgod yn Ynys M么n
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau fod tua 100 o bysgod wedi eu lladd o ganlyniad i lygredd mewn afon ar Ynys M么n.
Cafodd swyddogion eu galw i archwilio'r digwyddiad yn Afon Cefni, Llangefni brynhawn dydd Mercher.
Dywedodd CNC bod tua 100 o bysgod marw mewn darn 200m o'r afon ond eu bod nhw wedi canfod achos y llygredd ac wedi'i stopio.
Ond mae'r corff yn nodi eu bod nhw'n parhau i archwilio a monitro'r sefyllfa.