Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y dyn o Wynedd enillodd 拢500,000 ar raglen deledu
Mae nifer ohonon ni'n mwynhau mynd i'r dafarn leol i gymryd rhan mewn cwis, neu edrych ar raglenni cwis ar y teledu. Ond nid pawb sy'n cael y cyfle i ennill 拢1 miliwn ar sioe deledu.
Ond dyna'r cyfle gafodd Davyth Fear, cyn-athro daearyddiaeth yn Ysgol Bodedern, M么n, sy'n wreiddiol o Gernyw ond yn byw yn ardal Caernarfon ers blynyddoedd.
Roedd Davyth ar y rhaglen Who Wants to Be a Millonaire? ar nos Sul, 1 Medi, ac fe enillodd 拢500,000.
Felly beth oedd y disgwyliadau cyn ymddangos ar y rhaglen?
"Mewn ffordd oedd gen i ddim disgwyliadau cyn ymddangos ar y rhaglen" meddai Davyth.
'Lwcus i gyrraedd y rhestr fer'
"Ro'n i'n gwybod bod miloedd ar filoedd yn trio bod ar y rhaglen (ges i wybod bod 96,000 wedi trio). Roeddwn yn teimlo fy mod i'n lwcus i gyrraedd y rhestr fer ac wedyn i gyrraedd y rhaglen.
"Roeddwn mwyaf nerfus yngl欧n 芒'r 'fastest finger first'. Yn yr ymarfer cyn y rhaglen nid oeddwn wedi bod yn gywir llawer o weithiau. Mi wnes i drio rhoi fy hun 'yn y zone' pan ddadlennodd Jeremy'r atebion.
"Dwi'n cyfaddef fy mod i wedi bod yn lwcus iawn i gyrraedd y sedd boeth. Roedd 0.07 eiliad rhyngddaf a'r cystadleuydd nesaf. Ar 么l cyrraedd y sedd boeth, roeddwn yn teimlo fy mod yn gallu ymlacio mwy wedyn a chymryd pob cwestiwn fel roedd yn dod."
Mae Davyth yn cymryd rhan mewn cwisiau yn achlysurol yn ardal Caernarfon.
"Dwi'n quizzer achlysurol yn nhafarn y Glyntwrog yn Llanrug," meddai. "Enw'r t卯m yw 'The team with no name', ond nid wyf yn cyfrannu pob wythnos."
Pwysau'r goleuadau a'r camer芒u
Mae hi'n un peth i ateb y cwestiynau o'r soffa yn eich ystafell fyw, ond a ydy hi'n lot anoddach yn y stiwdio o flaen cynulleidfa?
"Mae'n debyg bod camer芒u a goleuadau yn creu mwy o densiwn, ond ro'n i'n ceisio ymlacio a mwynhau," meddai Davyth.
"Mae'r lifelines yn help ac roeddwn yn ceisio eu defnyddio'n synhwyrol. Y cwestiynau yr oeddwn mwyaf nerfus yngl欧n 芒 nhw oedd 拢2,000 a 拢4,000 ble roeddwn yn gorfod gwneud dyfaliadau addysgedig. Wedyn ces i gwestiynau roeddwn yn gwybod yr ateb iddynt."
Fe stopiodd Davyth ar y cwestiwn olaf, gan beidio ymdrechu am y 拢1 miliwn.
"Doeddwn i ddim yn teimlo temtasiwn i ateb y cwestiwn 拢1,000,000. Roeddwn rhy ansicr o'r ateb," meddai.
Gwario'r 拢500,000
"Nid wyf mewn brys i wario'r pres. Bydd trafeilio rhywle yn y dyfodol yn neis, yn arbennig efallai i Affrica ble dwi wrth fy modd yn gweld yr adar lliwgar a'r anifeiliaid tra gwahanol."
Felly, a fyddai Davyth yn ymddangos ar gwis arall ar y teledu?
"Does gen i ddim bwriad i ymddangos ar unrhyw gwis arall eto, ond mae'n bosib. O bosib dwi'n ffansio Eggheads," meddai.
Trafod y Gymraeg ar y sioe
"Roeddwn yn falch bod yna s么n am y gwaith wnes i o safoni enwau adar y byd yn y Gymraeg.
"Ond piti nad oedd digon o amser i s么n am brosiect arall wnes i yn 么l yn yr 80au, sef y record hir roc a pop rhyng-Geltaidd aml-gyfrwng cyntaf erioed (Keltia Rok, a ryddhawyd ar Recordiau Sain yn 1987). Mae'r caneuon o'r record newydd gael eu digideiddio a dylent fod ar gael i lawrlwytho a ffrydio unrhyw ddydd r诺an.
Ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg
"Gobeithio bod y ffaith bod y rhaglen wedi s么n fy mod i wedi dysgu Cymraeg yn mynd i ysbrydoli eraill i'w wneud.
"Roeddwn yn un o'r tri dysgwr yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn na enillodd yn Eisteddfod Abergwaun, ond teimlaf fod y gystadleuaeth yn gymorth mawr i ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg."
Ar yr un noson yn dilyn ymddangosiad Davyth ar y rhaglen fe enillodd Sean Lea o Wrecsam 拢32,000. Felly roedd hi'n noson lwyddiannus iawn i Gymru ar un o'r rhaglenni cwis mwyaf poblogaidd!
Hefyd o ddiddordeb: