Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Un o rasys beicio mynydd anodda'r byd yn dod i Wynedd
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Dros y penwythnos bydd miloedd o bobl yn heidio i Ddinas Mawddwy ar gyfer cystadleuaeth rasio beics mynydd Red Bull Hardline.
Mae'n cael ei chydnabod fel un o'r rasys beicio mynydd anoddaf yn y byd.
Mae cwrs arbennig wedi cael ei baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, sy'n arbennig o heriol.
Yn 么l un cynghorydd sir lleol, mae'r digwyddiad yn hwb i economi'r ardal.
Dywedodd John Pugh Roberts: "Mae 'na 3,000 o docynnau ceir wedi mynd mewn 'chydig iawn o amser, felly os oes dim ond dau ymhob car mi fydd o'n filoedd o bobl yn y cylch."
Berwyn Hughes a'i deulu sy'n cadw tafarn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy.
Mae'r rasio yn cael ei ddangos ar sgr卯n yno a dywedodd Mr Hughes fod pobl sy'n dod i wylio'r rasio yn dod yn eu holau dros y flwyddyn.
Dywedodd Mr Hughes: "Maen nhw yn dod, yn amlwg, i wylio ond hefyd yn dod yn 么l achos maen nhw wedi mwynhau'r ardal."
Gwerth 拢54m i'r economi
Yr amcangyfrif yw bod beicio mynydd gwerth 拢54m i economi Cymru pob blwyddyn.
Hefyd ddydd Sadwrn bydd canolfan Antur Stiniog ym Mlaenau yn agor pedwar llwybr newydd.
Mae'r datblygiad newydd wedi costio tua 拢130,000 i'w adeiladu, gyda nawdd gan gynllun cefnogi twristiaeth Llywodraeth Cymru.