Angen athrawon Cymraeg i ateb galw ysgolion Patagonia

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm

Disgrifiad o'r llun, Agorwyd Ysgol y Cwm ym Mhatagonia yn 2016
  • Awdur, Megan Davies
  • Swydd, ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru

Mae angen denu rhagor o athrawon Cymraeg i ddysgu yn nhair ysgol Gymraeg Patagonia, yn ôl Cynllun Dysgu Cymraeg y Wladfa.

Ar hyn o bryd, mae tair ysgol ym Mhatagonia sydd yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgol y Cwm yw'r ysgol ddiweddaraf i agor.

Sefydlwyd yr ysgol ddwyieithog - Cymraeg a Sbaeneg - yn 2016 ac ers hynny mae nifer y disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol.

Dywedodd Clare Vaughan, cydlynydd cynllun Dysgu Cymraeg y Wladfa, fod angen "wynebau newydd" er mwyn ateb y galw.

Cynnydd mewn niferoedd

Pan agorwyd Ysgol y Cwm, roedd tua 20 o ddisgyblion yn nosbarth meithrin yr ysgol.

Y gred yw y bydd dros 150 erbyn y flwyddyn nesaf.

Er llwyddiant yr ysgol, dim ond dau athro o Gymru sydd yn dysgu yno.

Dywedodd Ms Vaughan fod codi ymwybyddiaeth trigolion lleol o addysg ddwyieithog yn hollbwysig.

"Mae 'na lot o wahaniaeth rhwng system addysg Ariannin a system addysg Cymru," meddai Ms Vaughan.

"Dyw'r syniad o addysg ddwyieithog heb dreiddio eto mewn i beth mae'r wlad yn trio dysgu.

"Felly, ni'n trio cael pobl brofiadol o Gymru i gydweithio hefo'r athrawon lleol fel bod nhw'n gallu dangos beth ydy arfer orau Cymru o ddysgu dwy iaith ar y cyd."

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm

Gan fod adeilad yr ysgol yn cael i adeiladu ar hyn o bryd, nid yw'n bosib darparu diwrnod llawn o ysgol i bawb.

Mae'r meithrin yn cael hanner diwrnod a'r ysgol uwchradd yn cael hanner diwrnod.

Unwaith bod yr ysgol wedi ei chwblhau, bydd gwersi dwyieithog o 08:00 hyd at 15:30.

'Chwerthin i'n hunan bob dydd'

Mae Nia Jones, sy'n wreiddiol o Aberteifi, yn dysgu'n Ysgol y Cwm.

Symudodd i Drefelin yn 2016, gyda'r bwriad o aros ym Mhatagonia am flwyddyn - ond mae hi'n parhau i fyw yno nawr.

Dywedodd bod y cyfle i weithio wrth droed yr Andes yn gyfle iddi wireddu breuddwyd.

"Byswn i'n dweud os ydych chi wedi gweld hysbyseb ac ydych chi'n ystyried dod i Batagonia, ewch amdani," meddai.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

"Mae e'n ffordd o fyw hollol wahanol. Mae bywyd yn hyfryd yma. Lot llai o stress.

"Mae'n amlwg fod y cyflog lot yn llai ond mae bywyd yn yr Andes yn araf iawn. Lot mwy o amser i dreulio yn meddwl.

"Mae'r plant yn anhygoel. Dwi'n dod i'r ysgol pob dydd a dwi'n chwerthin i'n hunan bob dydd bod 'na bobl pen draw'r byd sydd yn siarad Cymraeg ac yn mwynhau dysgu Cymraeg ac eisiau dysgu Cymraeg.

"Mae'n anhygoel. Pan dwi'n gweithio gyda'r plant, does ganddyn nhw ddim syniad o gwbl bod e'n rhywbeth rhyfedd, byw ochr draw'r byd a bo' nhw'n siarad Cymraeg."

'Bythgofiadwy'

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan yng Nghynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut, Patagonia.

Y bwriad yw rhoi cyfleoedd profiad gwaith mewn ysgolion meithrin a chynradd a helpu gyda'r dosbarthiadau dysgu Cymraeg i oedolion. Y flwyddyn hon, mae pump wedi ennill yr ysgoloriaeth.

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm

Disgrifiad o'r llun, Mae Sara Dafydd a Meleri Williams yn annog eraill i fynd i Batagonia i ddysgu

Yn ôl Meleri Williams a Sara Dafydd - dwy sydd yno ar hyn o bryd - mae'n brofiad bythgofiadwy.

"Mi ddes i'r ysgol ac yn syth, o'n i'n canu ac yn chwarae piano gyda'r plant," meddai Meleri.

"Beth oedd yn synnu fi'n fwyaf oedd y cynifer o ganeuon Cymraeg o'n nhw gwybod eisoes. O nhw'n canu Calon Lân i ni a oedd hwnna'n rhywbeth oedd yn codi calon yn fawr iawn.

"Mae'r angen am bobl o Gymru i ddod allan yma yn sicr yn fawr. Mae'n brofiad anhygoel. Fi'n credu byddwn i'n bendant yn ystyried dod 'nôl yma."

Yn ôl Sara, mae'r angen am fwy o athrawon o Gymru yn amlwg: "Ni'n gweld bod yr ysgol yn tyfu.

"Yn amlwg, fel mae'r ysgol yn tyfu, mae'r staff hefyd yn gorfod tyfu. Ni wedi gweld pa mor fuddiol yw e i'r plant i gael athrawon o Gymru."