Rob Howley yn 'gwybod y rheolau' medd URC

Ffynhonnell y llun, Michael Steele

Disgrifiad o'r llun, Mae Rob Howley "wedi dychwelyd i Gymru i gynorthwyo gydag ymchwiliad"

Mae Warren Gatland yn mynnu na fydd y ffaith bod Rob Howley wedi ei anfon adref o Gwpan Rygbi'r Byd yn dilyn honiadau o dorri rheolau betio yn disodli gobeithion y t卯m yn Japan.

Roedd y prif hyfforddwr yn siarad mewn cynhadledd newyddion ynghyd 芒 phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips.

Fe ddaw ymadawiad Howley lai nag wythnos cyn g锚m gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth - yn erbyn Georgia ddydd Llun, 23 Medi.

Yn y gynhadledd fe wnaeth Phillips gadarnhau fod ymchwiliad i'r mater wedi dechrau, gan ddweud fod yr honiadau wedi dod i'w sylw am y tro cyntaf ddydd Mercher diwethaf.

Fe deithiodd yntau gyda ffigyrau amlwg eraill o fewn URC i Japan ddydd Llun, gan gwrdd 芒 Howley y diwrnod hwnnw.

Disgrifiad o'r fideo, Jonathan Davies: "Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd nawr"

'Gwybodaeth yn gyson'

Dywedodd Phillips: "Fe wnaeth Rob gydweithredu'n llawn, ac ar 么l ail gyfarfod fe wnaethon ni benderfynu mai'r cam cywir fyddai i Rob ddychwelyd i Gymru.

"Ar drothwy Cwpan y Byd, roedden ni'n ymwybodol bod angen i ni weithredu'n gyflym a chadarn. Dyna wnaethon ni.

"Roedd yr honiadau am Rob yn rhai difrifol. Mae'n un o'n gweithwyr, ac mae gennym ddyletswydd o ofal drosto ac mae ei les yn bwysig i ni."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Disgrifiad o'r llun, Martyn Phillips yw prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru

Gwadodd Phillips fod y bennod yn adlewyrchu'n ddrwg ar Undeb Rygbi Cymru.

"Fyddwn i ddim yn dweud fod e'n embaras. Mae'n anodd gweithredu ar rywbeth pan nad ydych chi'n gwybod amdano," meddai.

"Rwy'n falch o'r ffordd y gwnaethon ni a World Rugby ymateb - yr hyn ydyn ni'n gweld yw bod rygbi yn ystyried y mater o ddifrif.

"Maen nhw [hyfforddwyr a chwaraewyr] yn cael y wybodaeth [am reolau betio] yn gyson, ac yn arwyddo i gadarnhau eu bod yn deall beth sy'n ofynnol ganddyn nhw yn gyson, felly does dim amheuaeth fod pobl o fewn rygbi yn gwybod beth sy'n ofynnol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Warren Gatland a Rob Howley wedi cydweithio ers 2002 pan oedd Howley'n chwaraewr gyda Wasps

Yn y cyfamser dywedodd Gatland fod y garfan mewn sioc.

"Mae'n rhaid delio gyda phethau fel hyn weithiau... mae'n bwysig sut y byddwn yn ymateb i hynny," meddai.

"Roedden ni mewn sioc. Mae'r undeb yn delio gyda hyn, a dros y pum diwrnod nesaf mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar baratoi'r garfan ar gyfer y g锚m gyntaf yn erbyn Georgia.

"Rhaid i mi ddweud fod y chwaraewyr wedi bod yn anhygoel yn y 24 awr ddiwethaf. Mae pethau fel hyn yn gallu dod 芒 thimau yn agosach at ei gilydd.

"Ar hyn o bryd honiadau yw'r rhain. Yn amlwg roedd Rob wedi'i chwalu gan yr honiadau."