大象传媒

Dirwyon parcio Llangrannog yn 'niweidio'r economi'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Gwyn James yn poeni am yr effaith hir dymor

Mae pryder y gallai dirwyon sy'n cael eu rhoi gan gwmni parcio preifat yn Llangrannog, Ceredigion gadw pobl draw o'r pentref glan m么r, gan niweidio'r economi.

Dros y misoedd diwethaf mae nifer o bobl wedi cwyno yngl欧n 芒 dirwyon "afresymol" ar 么l methu 芒 thalu am barcio gan nad yw'r peiriant tocynnau'n gweithio.

Mae ffyrdd eraill o dalu - ar-lein, trwy ap neu trwy alwad ff么n neu neges destun. Ond dyw llawer o ymwelwyr ddim wedi gallu defnyddio'r rhain gan fod signal ff么n a chysylltiad 芒'r we yn wan.

Dywedodd y cwmni sy'n rhedeg y maes parcio bod gan yrwyr y "dewis i naill ai adael y maes parcio o fewn y cyfnod a ganiateir neu i aros a derbyn y ddirwy" os nad ydynt yn cytuno 芒'r amodau parcio.

Ar dir preifat mae'r maes parcio, ac ym mis Ebrill fe roddodd perchennog y tir y cytundeb i redeg y maes parcio i gwmni One Parking Solution o Orllewin Sussex.

Dyw pobl leol ddim yn rhedeg y maes parcio, sydd nawr yn codi am barcio 24 awr y dydd.

Cafodd camera ei osod i adnabod rhifau cofrestru ceir a pheiriant talu ac arddangos. Ond pan nad yw'r panel solar wedi'i wefru'n ddigonol dyw'r peiriant ddim yn derbyn taliadau gydag arian parod.

Mae gan ddefnyddwyr gyfnod o 10 munud i dalu gan ddefnyddio dull arall - ond heb signal ffon neu gysylltiad i'r we, dyw'r dulliau eraill ddim yn gweithio chwaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pan nad yw'r panel solar wedi'i wefru'n ddigonol dyw'r peiriant ddim yn derbyn taliadau gydag arian parod

Dywedodd y cynghorydd sir Gwyn James, fod nifer o bobl wedi cysylltu: "Mae cwynion wedi dod o bob man yn Lloegr ond hefyd gan bobl leol yn anffodus.

"Dyw'r ffi am barcio ddim yn ofnadwy - ond beth sydd yn ofnadwy yw bod y peiriant tocynnau ddim yn gweithio yn aml oherwydd mae'r panel solar sy'n pweru fe ddim yn ddigon i'w gadw i fynd."

Mae Gwenan Jenkins o Lanbedr Pont Steffan yn apelio yn erbyn dirwy gafodd hi ar 么l mynd a'i phlant i'r traeth: "Es i i dalu am fy nhocyn ond doedd y peiriant ddim yn gweithio.

"Ond gwelais i yn hwyrach bod rhywun arall wedi cael tocyn allan a'r peiriant yn gweithio, felly es i draw a chael tocyn. Ond erbyn hynny roeddwn i tu allan o'r grace period.

"Ces i ddirwy trwy'r post o 拢100 - sy'n dod lawr i 拢60 os chi'n talu o fewn pythefnos, ond dwi heb dalu gan fy mod yn apelio yn erbyn y ddirwy."

Dywedodd Ms Jenkins ei bod yn ystyried peidio mynd n么l i Langrannog oherwydd y profiad gafodd hi, ac mae sawl ymwelydd wedi mynegi teimladau tebyg wrth siarad 芒 busnesau lleol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Julia Palframan yn dweud bod Llangrannog yn dawelach oherwydd y sefyllfa parcio

Dywedodd Julia Palframan, sy'n berchen ar Caffi Patio wrth ymyl y maes parcio: "Fe gawn ni lythyron oddi wrth bobl, a galwadau ff么n a phobl yn curo'r drws cefn yn gofyn am air gyda ni.

"Ond dyw e ddim byd i wneud gyda ni. Dyw e ddim yn deg i ni yn lleol, mae'n dawelach yma, mae llai o bobl yn parcio lawr fan hyn."

Mae'r Cynghorydd Gwyn James yn poeni am yr effaith ar fusnesau lleol: "Maen nhw'n dibynnu ar dwristiaeth, ac mae'n bownd o gael effaith.

"Ond fy neges i yw peidiwch cadw draw o Langrannog oherwydd hyn. Mae maes parcio arall ar gael am ddim, 800 metr i fyny'r bryn."

'Dewis i adael'

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran One Parking Solutions mewn datganiad: "Os yw gyrrwr yn anghytuno gyda'r amodau parcio sydd wedi'u harddangos yn glir mae ganddyn nhw ddewis i naill ai adael y maes parcio o fewn y cyfnod a ganiateir neu i aros a derbyn y ddirwy.

"Yn anffodus mae rhai gyrwyr yn dewis aros hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw newid, neu ffon symudol neu ffordd arall o gael tocyn o'r peiriant."

Mae'r datganiad yn dweud hefyd bod y cyfnod a ganiateir cyn bod rhaid talu yn 10 munud, cyfnod safonol sydd wedi'i osod yn nghod ymddygiad y Gymdeithas Parcio Prydeinig.

Mae One Parking Solution Ltd wedi gwneud penderfyniad gweithredol i ymestyn y cyfnod hwn i 15 munud ar 么l mynd mewn i'r maes parcio. Bydd y cyfnod a ganiateir wrth adael yn aros yn 10 munud.