Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Herio beirdd i ysgrifennu 100 o gerddi mewn 24 awr
Bydd pedwar bardd yn ceisio mynd ati i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.
Bydd Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker yn gwneud yr Her 100 Cerdd eleni - sialens flynyddol sy'n cael ei gosod gan Lenyddiaeth Cymru.
Bydd y t卯m yn cychwyn arni yng Nghanolfan Ysgrifennu T欧 Newydd yn Llanystumdwy am 12:00 ddydd Mercher.
Bydd modd i'r cyhoedd ymuno yn yr her drwy awgrymu testunau dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y 24 awr.
Mae 3 Hydref yn nodi diwedd y sialens ac mae hefyd yn Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.
Dyma'r seithfed tro i'r Her 100 gael ei gynnal.