大象传媒

Hawl rhieni i dynnu plant o addysg rhyw i ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Plant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai'r holl wersi'n "briodol i ddatblygiad y disgybl"

Byddai hawl rhieni i dynnu eu plant allan o addysg rhyw a pherthnasoedd yn diflannu fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r cwricwlwm.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod "yn awyddus" bod pob plentyn a pherson ifanc yn astudio Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac Addysg Grefyddol.

Bydd ymgynghoriad wyth wythnos yn cael ei gynnal ar y cynlluniau.

Yn 么l y gweinidog mae'n anghyson bod disgyblion yn gallu cael eu tynnu allan o rai pynciau.

'Pob rhywedd a rhywioldeb'

Mae'r diwygiadau yn rhan o gwricwlwm newydd ysgolion Cymru, fydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd a blwyddyn gyntaf ysgolion uwchradd yn 2022 cyn cael ei ledu i ddisgyblion 16 oed erbyn 2026.

Mae Ms Williams eisoes wedi dweud y bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn "cynnwys pob rhywedd a rhywioldeb ac yn diwallu anghenion dysgwyr LGBTQI+".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Kirsty Williams y byddai rhieni'n cael gwybod beth fydd cynnwys y gwersi

Ddydd Llun, dywedodd ymgynghorwyr trais domestig y llywodraeth y dylai gwersi am rywioldeb a pherthnasoedd fod yn orfodol mewn ysgolion.

Roedd 89% o'r rhai wnaeth ymateb i ymgynghoriad blaenorol yn cefnogi hawl rhieni i dynnu eu plant o wersi addysg rhyw a pherthnasoedd.

'Priodol i'r disgybl'

Dywedodd y gweinidog y byddai'r holl wersi'n "briodol i ddatblygiad y disgybl" ac y byddai rhieni'n cael gwybod beth fydd cynnwys y gwersi.

"Rwy'n bwriadu sicrhau bod pob disgybl yn astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn y cwricwlwm newydd, yn yr un modd y byddan nhw'n astudio gwyddoniaeth, mathemateg ac ieithoedd," meddai Ms Williams.

"Dylai gwybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed, ac sy'n caniat谩u iddyn nhw lywio'u ffordd yn y byd sydd ohoni, fod ar gael i blant.

"Mae'n rhaid sicrhau ei fod yn hawdd i rieni gael trafodaeth ag ysgolion am hynny ac am rannau eraill o'r cwricwlwm."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Si芒n Rees ei bod "ddim yn glir ar hyn o bryd beth yn union fydd angen i athrawon gyflwyno"

Dywedodd Si芒n Rees o'r Gynghrair Efengylaidd y byddai'n "siomedig iawn" petai'r llywodraeth yn dileu'r hawl sydd gan rieni i dynnu eu plant allan o addysg cydberthynas a rhywioldeb.

"Ar hyn o bryd mae 'na lot o rieni yn dewis ysgolion yn 么l beth yw eu safbwynt moesol nhw ac mae gennym ni bryder y bydd plant yn gorfod trafod pethau sydd y tu allan i fframwaith eu hoedran nhw ac sydd ddim yn addas ar gyfer eu lefel nhw o ddatblygiad," meddai.

"Dyw e ddim yn glir ar hyn o bryd beth yn union fydd angen i athrawon gyflwyno a buaswn i'n pwyso ar y gweinidog i roi llawer mwy o fanylion i mewn i'r fframwaith fel bod pawb yn glir yn union beth sy'n cael ei ddweud."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar ddileu'r hawl sy'n bodoli i dynnu plant o wersi Addysg Grefyddol, yn ogystal 芒 chynnig enw newydd i'r pwnc, sef Crefyddau a Bydolygon.