Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmni i gau ffatri ym M么n sy'n cyflogi 40 o weithwyr
Mae cwmni sy'n cyflogi 40 o weithwyr ym M么n wedi cadarnhau eu bwriadu i gau eu safle yno a symud gwaith i ganolbarth Lloegr.
Dywedodd rheolwyr Marco Cable Management y bydd pawb sy'n gweithio yn Llangefni ar hyn o bryd yn cael cynnig swyddi yn ei safle yn West Bromwich.
"Cwymp yn y farchnad plastigion" yw'r rheswm dros y penderfyniad, medd y cwmni.
Bydd cyfnod o ymgynghori yn dechrau ar 11 Hydref, ond mae'r cwmni'n disgwyl y bydd yr holl waith wedi symud o F么n erbyn diwedd mis Mawrth.
Cafodd y busnes ei sefydlu ar Ynys M么n yn 2003, ac mae bellach yn rhan o gr诺p ehangach Atkore.
'Cyfnod anodd'
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod dim dewis ond ail-leoli, a bod nifer o'u cystadleuwyr hefyd wedi cael eu gorfodi i newid eu strwythurau yn y flwyddyn ddiwethaf.
Daw'r penderfyniad wedi "adolygiad manwl o adnoddau ac amodau marchnad newidiol" yn y DU.
Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd i'n gweithwyr a byddem yn gwneud popeth posib i'w helpu."
Mae datganiad y cwmni'n cydnabod "na fydd pob un o'r gweithwyr mewn sefyllfa i ail-leoli" i safle Unistrut UK yn West Bromwich.
Mewn rhai achosion, bydd rheolwyr yn trafod y posibilrwydd o gyfleoedd gwaith o fewn gr诺p Atkore.
'Siom i'r ynys'
Dywedodd Paddy McNaught o undeb Unite, sy'n cynrychioli rhai o'r gweithwyr: "Mae hyn yn newyddion siomedig iawn i'r ynys - esiampl eto fyth o gwmni'n symud i rywle arall.
"Mewn gwirionedd, ychydig iawn o siawns sydd yna bydd pobl eisiau codi pac a symud eu teuluoedd... felly mae'n ymddangos yn anochel bydd rhai pobl yn colli eu swyddi."
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n, Llinos Medi bod y newyddion "yn siom fawr i'r ynys ac yn ergyd ddifrifol i'r gweithlu, eu teuluoedd, cymuned Llangefni ac ardaloedd y cylch".
Ychwanegodd y bydd y cyngor yn cynnal trafodaethau brys gyda'r cwmni a phartneriaid eraill "er mwyn deall eu sefyllfa a chytuno ar gynllun ble gallwn gefnogi'r gweithwyr, ynghyd 芒'r cwmn茂au sy'n rhan o'r gadwyn cyflenwi".