Cofio'r arlunydd Wynne Jenkins o Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Yn 82 oed bu farw yr arlunydd Wynne Jenkins o Gaerfyrddin.
Roedd yn adnabyddus am ei luniau olew o dirlun ac adeiladau Cymru ac roedd ei waith yn cael ei arddangos yn gyson yn orielau celf Cymru a thu hwnt.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei fab Llŷr Jenkins "mai tirlun y gogledd oedd yn ei ddenu fwyaf.
"Roedd e'n hoff iawn o Dal-y-llyn a dwi'n creu be' oedd yn drawiadol am dad mai nid jyst tynnu llun o'r hyn a welai o'dd e - ro'dd e'n rhoi lliw i olygfa ac yn dod â'r cyfan yn fwy bywiog.
"Yr hyn oedd yn mynd â'i fryd oedd sut oedd pobl yn ymateb i'r tirlun - roedd pethau fel gosodiad crawiau, hynny yw sut roedd dynoliaeth yn gosod darnau o lechi, i ddiogelu neu addurno yn apelio ato."
Brodor o Langennech ger Llanelli oedd Wynne Jenkins ond roedd wedi byw yng Nghaerfyrddin ers hanner canrif.
Bu'n athro Cymraeg mewn ysgolion yn Aberdâr a Hwlffordd ac yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Bro Myrddin.
Ychwanegodd LlÅ·r Jenkins: "Tynnu lluniau oedd pleser mawr dad i ddweud y gwir ac roedd e'n gweithio i dalu'r biliau! Ond mae'n syndod faint o gyn-ddisgyblion sydd wedi dod yma yn dweud eu bod yn falch ei fod e wedi'u dysgu.
"Roedd gan dad, wi'n credu, barch mawr at y disgyblion - y rhai da a'r rhai drwg."
Osgoi manylder
Y dylanwad cyntaf ar Wynne Jenkins oedd yr arlunydd a'i athro celf o Lanelli, John Bowen.
Roedd e hefyd yn edmygydd o waith Kyffin Williams a Lucien Freud, a'r prif ddylanwad diweddar arno oedd yr artist Gwilym Pritchard.
Roedd yn well ganddo ddefnyddio cyllell yn lle brws fel nad oedd yn cynnwys gormod o fanylder yn ei luniau. ​
Roedd yn sylwebydd cyson ar sioeau celf i Radio Cymru a rhaglenni S4C.
"Ond ry'n yn ei gofio hefyd," meddai LlÅ·r Jenkins, fel Cristion a Chymro. Roedd e'n hoff iawn o fynychu capel y Priordy yma yng Nghaerfyrddin.
"A rhaid cofio hefyd ei fod yn gefnogwr brwd o'r Scarlets."
Mae e'n gadael gwraig Eira a dau fab - LlÅ·r a Prys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2018