Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dirwyon o 拢420,000 am dorri coed hynafol
Mae datblygwr tai a chontractwr torri coed wedi cael dirwyon o 拢420,000 rhyngddyn nhw am dorri 70 o goed oedd wedi'i diogelu, gan gynnwys cochwydden hynafol.
Cafodd cyfarwyddwr cwmni Enzo Homes, Fiorenzo Sauro a'r contractwr, Arwyn Morgan eu herlyn gan Gyngor Abertawe ar 么l torri coed ger datblygiad tai ym Mhenlle'r-gaer y llynedd.
Cafwyd Sauro, 50, a'r cwmni'n euog ym mis Awst o dorri gorchymyn diogelwch coed.
Clywodd Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth bod y gochwydden yn dirnod amlwg yn yr ardal ac "yn arwyddocaol yn hanesyddol".
Cafodd y coed eu plannu 1842 gan berchennog hen yst芒d Penlle'r-gaer, y botanegydd John Dillwyn Llewelyn.
Roedd yr erlyniad wedi dadlau bod dim modd ail-sefydlu'r un amodau yn y tir wedi i'r coed hynafol gael eu torri.
Edifar
Dywedodd Sauro wrth y llys ym mis Awst bod y gochwydden wedi'i thorri'n ddamweiniol wedi i rywrai beidio 芒 dilyn ei gyfarwyddiadau.
Clywodd gwrandawiad ddydd Mawrth bod dim mantais ariannol i'r diffynyddion.
Cafodd Sauro ddirwyon o 拢180,000 a bydd yn rhaid talu 拢7,500 mewn costau.
Bydd yn rhaid i Enzo Homes dalu dirwy o 拢120,000 a 拢7,500 mewn costau.
Ar 么l pledio'n euog i'r un cyhuddiadau, cafodd Morgan. 51, ddirwy o 拢120,000 a gorchymyn i dalu 拢2,000 o gostau.
Dros 拢66,000 oedd amcan-werth y gochwydden, ac roedd 72 o goed eraill yn werth 拢1,000 yr un.
Clywodd y llys bod Sauro eisoes wedi archebu coed o blanhigfa gyda'r bwriad o'u plannu o fewn dwy flynedd yn lle'r rhai gafodd eu torri.
Dywedodd bargyfreithiwr Morgan fod yntau, fel Sauro, yn "edifar iawn", gan ymddiheuro ar ei ran.