Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffonau yn yr ysgol: Gwahardd neu beidio?
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru
Mae nifer o ysgolion yn gwahardd ffonau symudol, ond mae rhai yn mynd i gyfeiriad gwahanol ac yn cynyddu'r defnydd o'r teclynnau yn yr ystafell ddosbarth.
Ers dwy flynedd mae Ysgol Uwchradd Caergybi wedi llacio eu polisi oedd yn arfer atal disgyblion rhag defnyddio ffonau yn ystod oriau ysgol.
Yn 么l y pennaeth Adam Williams roedd hynny'n arwain at wrthdaro gydag athrawon a chreu "awyrgylch negyddol".
Dywedodd bod defnyddio ffonau symudol mewn gwersi yn gallu helpu sgiliau technoleg plant wrth baratoi am fyd gwaith.
'Datblygu syniadau'
Newidiodd polisi'r ysgol yn rhannol oherwydd barn y disgyblion drwy'r cyngor ysgol.
"Oeddan ni'n gwario gormod o amser yn herio plant am ddefnyddio ff么n symudol yn ystod y dydd ac felly roedd hynna'n cymryd amser i ffwrdd o bethau oedd yn fwy pwysig sef addysg plentyn," meddai Mr Williams.
"Wrth siarad efo'r plant, roedd y plant yn siarad am ddulliau roedden nhw'n defnyddio ff么n symudol adre ac felly roedden ni'n teimlo ei bod hi'n amser datblygu'r syniadau yna o fewn y dosbarth."
Mae'r disgyblion yn cael defnyddio'u ffonau at bwrpasau cymdeithasol yn ystod amser egwyl a chinio hefyd.
Yn 么l y pennaeth mae problemau yn ymwneud 芒 gwefannau cymdeithasol yn sialens, ond mae'n tueddu i ddigwydd tu allan i oriau ysgol.
"Wrth gwrs bod o'n her ond eto ein cyfrifoldeb ni mewn ysgol ydy dysgu'r plant sut i ddefnyddio'r math yma o dechnoleg mewn ffordd bositif," meddai.
Ddim yn ymarferol
Does yna ddim canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar y defnydd o ffonau symudol ac ysgolion sydd yn penderfynu ar eu polis茂au eu hunain.
Ymhlith sawl ysgol sydd yn eu gwahardd yn ystod oriau ysgol yw Ysgol y Strade yn Llanelli.
Yn 么l y Dirprwy Bennaeth Adam Powell mae'r ffaith bod disgyblion yn teithio i'r ysgol ac yn aml 芒 gweithgareddau ar ddiwedd y dydd yn golygu nad yw hi'n ymarferol i'w gwahardd rhag dod 芒 ffonau ar y safle o gwbl ond y ddealltwriaeth yw nad yw plant yn eu "defnyddio'n gyhoeddus na chwaith mewn gwersi rhwng 08:30 a 15:15".
"Ar y cyfan mae'r disgyblion yn deall bod eu sylw nhw ar eu gwaith ysgol ac nid eu sylw nhw'n cael eu tynnu gan negeseuon a synau ar eu ffonau nhw."
Mae yna fwy o ryddid i fyfyrwyr chweched dosbarth i ddefnyddio eu ffonau ond mae yna gefnogaeth i'r cyfyngiadau.
"Fe ddylen ni werthfawrogi'r br锚c y'n ni'n cael o'r ffonau", meddai Aaron, 18, "ry'n ni'n dod yma i ddysgu ond hefyd i gymdeithasu gyda'n ffrindiau yn yr ysgol."
Mae Elen, 17, yn amheus o'r budd addysgiadol o'u defnyddio yn y gwersi.
"Dydyn nhw ddim o reidrwydd yn mynd i helpu chi ddeall rhyw broblem - maen nhw jyst yn tynnu oddi ar ganolbwyntio", meddai.
'Eu defnyddio'n effeithiol'
Mae'r Athro Tom Crick, sy'n arbenigwr ar Addysg Ddigidol ym Mhrifysgol Abertawe, yn poeni am y neges ynghlwm 芒 gwahardd ffonau symudol.
"Y broblem gyda gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion yw'r neges mae e efallai yn danfon i bobol ifanc - y syniad bod y rhain yn declynnau sy'n codi ofn ac sydd raid eu rheoli a fyddai hynny ddim yn rhoi'r neges am fod yn ddinasyddion digidol grymus a chyfrifol," meddai.
Ond mae'n dweud bod effaith ffonau symudol ar ymddygiad hefyd yn ystyriaeth i ysgolion a bod rhaid i bob ysgol benderfynu ar bolisi ar sail eu hamgylchiadau penodol.
Yn 么l Llywodraeth Cymru dylai ysgolion ystyried yr effaith all ffonau symudol gael "ar ddysgu ac ar les disgyblion".
"Mae gan athrawon yr hawl eisoes i gyfyngu defnydd ffonau ac rydym yn cydnabod, pan gaiff ei rheoli'n gywir, gall ffonau gael eu defnyddio yn effeithiol mewn ystafelloedd dosbarth fel teclyn dysgu," dywedodd llefarydd.