大象传媒

Galw am weithredu i atal effaith 'bryderus' cau banciau

  • Cyhoeddwyd
Barclays Llanymddyfri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does yr un banc yn Llanymddyfri bellach ar 么l i'r olaf gau ym mis Mehefin

Mae angen gweithredu "ar fyrder" gan weinidogion Cymru ar 么l i'r wlad golli dros 40% o'i changhennau banc dros bum mlynedd, yn 么l ACau.

Caeodd 239 o ganghennau rhwng Ionawr 2015 ac Awst 2019, yn 么l y Pwyllgor Economi.

Mae ymchwil Which? yn dangos bod nifer y peiriannau codi arian parod sydd am ddim i'w defnyddio wedi cwympo o 10% rhwng Mawrth 2018-2019 (2,517 i 2,281).

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi galw ar fanciau i barhau 芒 phresenoldeb cryf yn nhrefi Cymru, ond mai Llywodraeth y DU sydd 芒'r p诺er i reoleiddio'r diwydiant yn y pendraw.

'Taro cymunedau'n galed'

Mae'r adroddiad yn rhybuddio bod "arian yn llifo o gymunedau llai a'r Strydoedd Mawr i'r trefi mwy".

Dywedodd y pwyllgor bod effaith hynny ar yr economi yn "bryderus iawn".

Yn 么l ymchwil Which?:

  • Dywedodd 87% o gwsmeriaid bancio personol fod cau canghennau wedi cael effaith arnynt;

  • Dywedodd 50% bod cau canghennau yn y gorffennol wedi arwain at gyfyngu mynediad at gyfleuster i godi arian;

  • Dywedodd 36% eu bod yn cymryd hyd at 30 munud yn ychwanegol i gyrraedd cangen banc erbyn hyn.

Mae'r aelodau hefyd yn amlygu ymchwil sy'n awgrymu bod ardaloedd tlotach yn colli peiriannau arian parod sydd am ddim i'w defnyddio ar gyfradd llawer cynt nag ardaloedd cyfoethog dros y DU.

Yn ogystal, dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach bod twristiaid yn dal i ffafrio arian parod oherwydd costau uchel ar gardiau credyd.

Mae'r diffyg peiriannau arian parod yn cael "effaith sylweddol ar fusnesau" mewn ardaloedd sy'n ddibynnol ar dwristiaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gareth Thomas yn dweud ei fod yn "anodd i'r rhai sy'n methu trafeilio"

Un o'r trefi sydd wedi ei gadael heb yr un banc yw Llanwrtyd ym Mhowys.

Mae Gareth Thomas wedi ymddeol ac yn un o drigolion y dref.

"Dyw e ddim yn neud lot o wahaniaeth i fi - fi wedi riteirio a fi'n gallu mynd lawr i'r mobile banc yn eithaf rhwydd ond i'r rheiny sy' ffeili trafeilio, mae'n anodd," meddai.

"Ni'n cael ein gadael ar 么l yn popeth, s'dim byd yn dod 'ma o gwbl.

"Ma' fe gyd yn mynd i'r dinasoedd.

"Dwi ddim ishe mynd ar-lein achos dyw e ddim yn beth rhwydd i 'neud.

"Mae'n ddigon hawdd i 'neud camgymeriad ar y we."

Er nad ydy rheoleiddio bancio wedi ei ddatganoli, mae'r pwyllgor yn dweud bod lle i Lywodraeth Cymru ymyrryd.

Ymhlith yr argymhellion mae:

  • Cefnogi'r rhwydwaith peiriannau arian parod rhad ac am ddim presennol, a sicrhau bod peiriannau ar gael lle mae eu hangen fwyaf;

  • Adolygu sut all Swyddfa'r Post ehangu'r gwasanaethau ariannol sydd ar gael ganddynt;

  • Cynnig hyfforddiant sgiliau bancio digidol i bobl h欧n a phobl sy'n agored i niwed, ac addysg ariannol mewn ysgolion.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Russell George AC, bod colli banciau yn "taro cymunedau'n galed".

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "ystyried newid rheolau cynllunio i amddiffyn cyfleusterau bancio a chynnwys yr angen am fanciau yn eu gwaith ar adfywio canol trefi".

Ychwanegodd bod creu banc cymunedol yn "werth ei ystyried" ond bod pryderon ynghylch "dichonolrwydd prosiect o'r fath ac efallai nad hwn yw'r defnydd gorau o arian cyhoeddus i ddatrys y broblem".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn huawdl wrth alw ar fanciau masnachol i barhau 芒 phresenoldeb cryf yn nhrefi Cymru, ond mae rheoleiddio'r diwydiant bancio yn nwylo Llywodraeth y DU a ganddyn nhw mae'r p诺er i reoleiddio a sicrhau fod gwasanaethau hanfodol ar gael i gymunedau, cwsmeriaid a busnesau lleol."