Achosion o glwy'r pennau ymysg myfyrwyr yng Nghaerdydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi derbyn dau frechiad MMR

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn ymchwilio wedi i bron 30 achos posib o glwy'r pennau (mumps) ddod i'r amlwg ymysg myfyrwyr prifysgol.

Wrth annog pobl i sicrhau eu bod wedi derbyn y brechlyn MMR, fe gadarnhaodd ICC eu bod yn ymchwilio i'r achosion posib yn ardaloedd Caerdydd a Chwm Taf.

Mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd a Phrifysgol De Cymru wedi cynghori myfyrwyr i fod yn ymwybodol o'r symptomau.

Bu nifer o achosion tebyg ym Mhrifysgol Met Caerdydd ym mis Ebrill, ac maen nhw wedi dweud eu bod yn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr.

Mae Prifysgol De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sy'n cael diagnosis o glwy'r pennau i gysylltu 芒 staff.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw achosion ymhlith eu myfyrwyr nhw ar hyn o bryd, ond y gallai'r sefyllfa newid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae feirws clwy'r pennau yn heintus iawn ac yn gallu lledu drwy'r poer

Mae brechlyn MMR yn gwarchod pobl rhag y frech goch, y frech Almaenig a chlwy'r pennau, ond er ei fod 99% yn effeithlon yn erbyn y frech goch dim ond 85% yw'r ffigwr am glwy'r pennau.

Dywedodd Rhianwen Stiff, ymgynghorydd rheoli clefydau heintus gyda ICC: "Mae'n bosib gweld clwy'r pennau mewn unigolion sydd wedi cael eu brechu gyda'r MMR.

"Mae clwy'r pennau yn lledu drwy beswch neu disian a thrwy gysylltiad uniongyrchol gyda phoer person sydd wedi ei heintio, megis drwy gusanu neu rannu diodydd.

"Mae'n bwysig i bobl sy'n amau fod ganddyn nhw glwy'r pennau i gadw draw o'r brifysgol ac unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol am bum niwrnod wedi i'r symptomau ddechrau ymddangos, golchi eu dwylo'n aml ac yn enwedig ar 么l chwythu trwyn, a pheidio rhannu pethau fel poteli d诺r neu sigar茅t gydag unrhyw un arall."

Mae clwy'r pennau yn adnabyddus am achosi chwyddiadau ar ochr yr wyneb neu o dan y clustiau. Gall symptomau eraill gynnwys:

  • Cur pen;
  • Poen yn y cymalau;
  • Dim awydd bwyd;
  • Teimlo'n gyfoglyd;
  • Chwyddo poenus o'r ceilliau neu ofar茂au;
  • Tymheredd uchel.

Mae pobl sydd ag unrhyw un o'r symptomau yma yn cael eu cynghori i gysylltu gyda'u meddyg teulu.