大象传媒

Colli babi yn y groth: 'Angen cefnogaeth well i ferched'

  • Cyhoeddwyd
Jessica Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jessica Evans wedi colli chwe babi dros y blynyddoedd

Mae galwad i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i ferched sydd wedi colli sawl plentyn yn y groth.

Mae Jessica Evans wedi colli chwe babi, ac wedi gorfod cael cymorth arbenigol yn Lloegr.

Mae hi'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar argymhellion gafodd eu gwneud mewn adroddiad i wleidyddion ym Medi 2018.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gwaith yn mynd rhagddo o fewn rhai byrddau iechyd.

'Argyfwng'

Yn 么l elusen Tommy, mae un mewn pedwar dynes feichiog yn colli babi yn y groth, ac mae 40% yn dioddef o anhwylder straen 么l drawma (PTSD) o ganlyniad.

Roedd adroddiad gafodd ei gyflwyno yn 2018 yn argymell y dylai clinigau beichiogrwydd cynnar yng Nghymru gydymffurfio 芒 gofynion y corff iechyd NICE.

Roedd dadl arall yn y Senedd yn Hydref 2018 yn galw am wella gofal galar ar gyfer merched sy'n cam-esgor.

Ond yn 么l Ms Evans, "does dim llawer wedi digwydd ers hynny".

Ffynhonnell y llun, Charlotte Byrne
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Charlotte Byrne, wnaeth golli pedwar babi yn y groth ddweud y dylai sefyllfaoedd o'r fath gael eu trin fel argyfwng

Fe ddechreuodd Ms Evans, 36 oed ac o Langollen, ymgyrchu ar 么l i gais i weld arbenigwr yng Nghymru gael ei wrthod, a hynny wedi sawl camesgoriad.

Cafodd driniaeth mewn canolfan yn Coventry ar 么l cofrestru fel claf dros dro yn Sir Amwythig ble mae hi'n gweithio.

Fe gollodd ddau fabi cyn cael mab sydd bellach yn bedair oed. Mae hi wedi colli pedwar babi arall ers hynny.

"Roedd y gefnogaeth emosiynol a'r gofal iechyd ar y pryd yn wael o ran diffyg preifatrwydd. Cefais fy rhoi ar ward ble roedd cymysgedd o ddynion a merched oherwydd prysurdeb.

"Doedd y gefnogaeth emosiynol ddim yno, dyw ddim yn bodoli a does dim yn digwydd o ran 么l-ofal," meddai.

'Trawmatig'

I gyd-fynd ag wythnos codi ymwybyddiaeth colli plant, fe ysgrifennodd Ms Evans at Lywodraeth Cymru'n gofyn am wybodaeth ynghylch sut mae argymhellion yr adroddiad wedi cael eu gweithredu.

Mae Charlotte Byrne, 31 o Bowys, wedi colli pedwar babi mewn dwy flynedd - y mwyaf diweddar yn Ebrill 2019.

"Mae colli babi yn y groth yn golygu gwaedu difrifol a ddylid cael ei drin fel argyfwng," meddai.

"Does dim cymorth meddygol tan fod tri chamesgoriad olynol, hyd yn oed os ydych chi'n gallu ystyried cael triniaeth breifat.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymgyrchwyr yn galw am glinigau arbenigol yng ngogledd a chanolbarth Cymru ar gyfer merched sy'n cam-esgor dro ar 么l tro

Pan gollodd Ms Byrne ei babi cyntaf, wedi naw wythnos o feichiogrwydd, cafodd ei gadael i ddyfalu dros ei hun beth achosodd y golled, ac aeth ymlaen i golli tri phlentyn arall.

"Mae'r cyngor pan 'dach chi'n cam-esgor yn annigonol.

"Ar 么l cyrraedd adref mi wnes i basio'r embryo ac roedd hynny'n drawmatig iawn, wnaeth neb fy rhybuddio y gallai hynny ddigwydd," meddai.

Beth mae'r byrddau iechyd yn ei wneud?

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio 芒'r byrddau iechyd i sicrhau cefnogaeth a gofal priodol i deuluoedd sy'n dioddef "colled mor boenus".

"Mae byrddau iechyd unigol eisoes 芒 gwaith yn mynd rhagddo i wella'r gofal i deuluoedd a byddem ni'n cynnal arolwg yn fuan o sut mae'r gofal hwn yn cael ei ddarparu ar draws Cymru," meddai llefarydd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn adolygu'r gefnogaeth i fenywod sy'n cael cymhlethdodau yn gynnar yn eu beichiogrwydd i sicrhau ei bod yn cwrdd 芒 safonau NICE a Choleg Brenhinol Obstetryddion a Gynecolegwyr.

"Bydd yr adolygiad yn edrych ar holl agweddau gofal beichiogrwydd cynnar gan gynnwys sut mae gwella mynediad i'n hunedau beichiogrwydd cynnar a sefydlu gwasanaeth camesgoriad dro ar 么l tro arbenigol yng ngogledd Cymru," meddai llefarydd.

"Bydd hyn yn ein helpu i adeiladu ar nifer o welliannau yn y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys cyflwyno adnoddau galar neilltuol yn ein prif ysbytai."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bod yna wasanaeth dan arweiniad bydwragedd lleol yn y sir, ond bod natur wledig yr ardal yn golygu bod trigolion yn defnyddio gwasanaethau mamolaeth a brys ysbytai dros y ffin yn Lloegr.

"Os oes gan fenywod a theuluoedd bryderon ynghylch eu gofal mewn ysbytai cyfagos byddwn yn eu hannog i'w trafod gyda'r corff sy'n darparu'u gofal ysbyty," meddai.