大象传媒

Lleihau cosb capten Y Barri wedi ap锚l dros ei ymddygiad

  • Cyhoeddwyd
Jordan CotterillFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bydd capten Clwb P锚l-droed Y Barri'n cael chwarae eto fis nesaf ar 么l apelio yn erbyn chwe mis o waharddiad yn sgil honiad o ymddygiad ymosodol at ddyfarnwr.

Cafwyd Jordan Cotterill yn euog o ymosod yn wreiddiol yn sgil digwyddiad yn y g锚m rhwng Y Barri a Phenybont yn Uwch Gynghrair Cymru ar 16 Awst.

Ond wedi gwrandawiad ap锚l ddydd Iau, mae Cymdeithas B锚l-Droed Cymru (CBDC) wedi dyfarnu ei fod yn euog yn hytrach o drosedd llai difrifol, sef ymosodiad technegol, lle doedd y chwaraewr heb gyffwrdd yn y dyfarnwr mewn unrhyw fodd.

Mae'r gosb bellach wedi ei leihau i waharddiad o 10 g锚m, ac un g锚m ychwanegol yn sgil trosedd carden felen yn yr un g锚m.

Gan fod Cotterill eisoes wedi colli wyth o gemau mae'n golygu bydd ar gael i chwarae yn erbyn Cei Connah mewn g锚m gartref ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd.

Fe fyddai wedi colli 23 o gemau dan y gosb wreiddiol.

'Diolch am gefnogaeth'

Dywedodd Cotterill mewn neges ar Twitter ei fod yn "diolch i'r clwb ac i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y broses hir yma".

Ychwanegodd ei fod "methu aros i fod yn 么l gyda'r bechgyn a gwneud pethau'n iawn".

Dan reolau CBDC, mae ymosodiad technegol yn digwydd:

  • hyn oed os nad oedd chwaraewr yn bwriadu gweithredu wedi ymddygiad ymosodol;

  • os oedd y geiriau neu'r weithred yn degybol o godi ofn rhesymol ar ddyfarnwr neu swyddog;

  • os mae'r bygythiad o natur treisgar, ac

  • mae'r chwaraewr yn agos iawn at y swyddog ar y pryd.