Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwilio i lun o ddyfarnwr rygbi gyda chefnogwyr Cymru
Mae World Rugby yn ymchwilio ar 么l i lun o ddyfarnwr yn ymddangos ei fod yn gwneud hwyl o chwaraewr Ffrainc gafodd gerdyn coch ymddangos ar-lein.
Yn y llun mae Jaco Peyper - roddodd gerdyn coch i Sebastien Vahaamahina am daro'i benelin i wyneb Aaron Wainwright ddydd Sul - yn dal ei benelin yng ngwyneb cefnogwr.
Peyper oedd y prif ddyfarnwr wrth i Gymru ennill o bwynt a sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd.
Dywedodd World Rugby - y corff sy'n rheoli rygbi rhyngwladol - ei fod yn ceisio "cadarnhau'r ffeithiau" ynghylch y llun.
Dywedodd datganiad: "Mae World Rugby yn ymwybodol o lun ar wefannau cymdeithasol o Jaco Peyper gyda gr诺p o gefnogwyr Cymru gafodd ei gymryd ar 么l g锚m wyth olaf rhwng Cymru a Ffrainc yn Oita neithiwr [ddydd Sul].
"Byddai'n anaddas i wneud sylw pellach tra ein bod ni'n cadarnhau'r ffeithiau."
Mae is-lywydd Ffederasiwn Rygbi Ffrainc, a chyn-brop y wlad, Serge Simon, wedi galw'r llun yn "syfrdanol".
Roedd Peyper yn dyfarnu ei 50fed g锚m brawf ddydd Sul.